MRS. SUSANAH EDWARDS. CALEDONIA, WISCONSIN.

Medi 17eg, 1898, pan yn 88 mlwydd 3 mis a 19 diwrnod oed, Mrs. Edwards, Caledonia, Wisconsin.

Merch ydoedd i John Jones a'i wraig Gwen, Ystumgwern, Dyffryn Ardudwy, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru.

Ganwyd hi Mehefin 1af, 1810. Yr oedd yn un o bedwar o blant, oll wedi marw.

Priododd gyda William Edwards, Talwrn Bach, Llanbedr, Sir Feirionydd.

Ganwyd iddynt naw o blant, wyth yn Nghymru ac un yn y wlad hon, sef Gwen, Edward, Gwen, John, William, Laura, Robert, John, Robert. Gwelsant gladdu tri o'r plant yn Nghymru, sef Gwen, John a Laura.

Yn 1849 daethant drosodd i'r wlad hon. Bu Robert, y seithfed o'r plant, farw ar y fordaith, a chladdwyd ef yn New York.

Bu y teulu yn aros am tua dau fis yn Racine, Wisconsin, yna daethant i Caledonia, gerllaw Portage, Wisconsin, lle y treuliasant weddill eu hoes, yn 1856.

Bu dau o'r bechgyn farw mewn tua dwy wythnos i'w gilydd o'r typhois fever.

Yn 1874 pan yn 72 mlwydd oed, bu farw William Edwards, priod Mrs. Edwards, a chladdwyd ef yn Caledonia.

Tri o'r plant sydd yn awr yn fyw, sef Gwen, gweddw E. R. Evans, Racine; W. J. Portage; a Robert E., yr hwn sydd yn byw yn yr hen gartref. Bu William J. yn y fyddin am dair blynedd ond un mis. Perthynai i Company C, 23rd Infantry, Wisconsin.

Tua chwe blynedd yn ôl cyfarfu Mrs. Edwards a Damwain mewn canlyniad i godwm, torodd asgwrn pen ei chlun. Ni allasai symud i unman ond trwy gymorth ffyn baglau. Ymddengys i wrthrych ein sylw gael dygiad i fyny crefyddol. Perthyn i'r Wesleyald yr oedd ei rhieni, a gyda'r enwad hwnw y cafodd hithau ei dwyn i fyny. Dygir tystiolaeth iddi fel gwraig rinwedidiol a chrefyddol; yr oedd yn ffyddlawn iawn gyda holl ddyledswyddau crefydd. Parhaodd hyd y diwedld i ddylyn yr Oen. Nodweddid hi mewn bod yn hollol unplyg a didderbynwyneb. Dywedai lawer gwaith yn ei chystudd olaf fod ei holl gysur oddiwrth yr Arglwydd; ac yr oedd yn hiraethu am awr ei hymddatodiad i gael bod gyda Christ.

Yr oedd wedi symud o'r hen gartref i Portage at ei mab William, er's ychydig wythnosau, a chafodd ofal tyner a manwl ganddo ef a'i briod.

Dydd Mawrth, Medi 20fed, ymgynullodd llu o'i chydnabod i anedd ei mab William. Wedi derllen a gweddio a chanu, caed anerchiad gan y Parch. Adam Fawcett, Portage; yna aed yn orymdaith tua Caledonia. Gweinyddwyd yn Gymraeg gan yr ysgrifenydd, ac yn Saesneg gan A. Faucett. Yr oedd y canu dan arweiniad John G. Owens.

Gadawodd Mrs. Edwards ddau fab, un ferch, wyth o wyrion a saith o orwyrion i alaru ar ei hol. Nawdd y nef fyddo dros y plant, yr wyrion a'r orwyrion.
G. GRIFFITHS.

Y Drych ~ Medi 29ain 1898.