MRS. MARY ELLIS. CROOKED BROOK, DEERFIELD, NEW YORK.

Ionawr 12fed, 1898, yn nhy ei merch, Mrs. Charles J. Cotton, Crooked Brook, Deerfield, New York, Mrs. Mary Ellis, yn 80 oed.

Ganwyd Mrs. Ellis yn Pentrepriod, yn agos i'r Bala, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru.

Daeth gyda'i rhieni mewn llong hwylio gan ymsefydlu yn Deerfield, lle y trigodd yr oll o'i hoes oddiar hyny. Yn ystod ei harosiad yn Deerfield, ymaelododd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.

Bu ei phriod, Ellis D. Ellis, farw tuag wyth mlynedd yn ôl, yn yr 86fed flwydd o'i oed.

Gadawodd bedwar o blant a dwy chwaer, D. E. Ellis, argraffydd, Utica, a, Hugh M. Ellis, Deerfield; Mrs. C. J. Cotton a Mrs. Owen Jones, Crooked Brook.

Ei dwy chwaer ydynt, Mrs. Ellen Roberts, Erie, Pennsylvania a Mrs. Elizabeth Lewis, Rome.

Y Drych ~ Ionawr 20fed 1898.