MR. DAVID S. EVANS. BIG ROCK, ILLINOIS.

Mawrth 1af, 1898, yn Big Rock, Illinois, David S. Evans, yn 87 mlwydd oed.

Ganwyd ef yn y Foel, Sir Feirlonydd, gerllaw Llanfihangel, Sir Ddinbych, Chwefror 16eg, 1811. Ei rieni oedd Dafydd a Catherine Evans.

Cofiai ei fod yn myned i'r Ysgol Sul yn nghapel newydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanfihangel, pan yn bedair oed, a bu yn ddysgybl neu yn athraw yn yr ysgol Sul Gymreig ar hyd ei oes faith.

Ymunodd a'r eglwys yn Llanfihangel pan yn 24 oed, ac un fu erioed dan wg dysgyblaeth. Nid oedd neb yn ameu gwirionedd ei grefydd. Yr oedd ganddo ei golliadau, ond fel brychau oeddynt ar haul ei fywyd.

Yn 1838 ymbriododd ag Elizabeth Davies o Hendre, Cefn Ffos, Sir Feirionydd, yr hon fu farw yn ardal Bethesda, Oshkosh, yn 1869.

Ganwyd iddynt bedwar o blant. Claddwyd bachgen bach tra ar eu taith yn Utica, New York. Bu farw y ferch hynaf, sef Mrs. Elizabeth Davies, Pen y Bonc; yn yr hen gartref yn ymyl Bethesda rai blynyddau yn ôl. Y mae y ddau arall, Mrs. Catherine W. Evans a'r Parch. David Edward Evans yn byw yn Minneapolis, Minnesota.

Yn 1874 ymbriododd â. Mrs. Jennet Morris, Delafield. Wisconsin. Ar ôl byw am rai blynddau yn nhre Oshkosh, symudasant i Big Rock, Illinois, lle bu ef fyw am y 14 mlynedd diweddaf o'i fywyd.

Yr oedd ganddo gorff lluniaidd a bywiog. Yn 1849 cyn y daeth son am reilffyrdd, bron cyn dyddiau yr ychain, cerddodd ef a dau gyfaill o ardal Waukesha i ardal Oshkosh, 78 o filldiroedd, mewn diwrnod; a'r wythnos ganlynol cerddasant yn ôl i ardal Waukesha yn yr un amser, sef o godiad haul hyd ei fachludiad. Nid yw plant ieuanc yr oes hon yn gallu ystyried y caledi yr aeth y tadau a'r mamau trwyddoi er mwyn cael cartref. "Gorphwysant oddiwrth eu llafur, a'u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt" Ei gymeriad, crefyddol ydoedd y ffyddlon, ie un o'r rhai ffyddlonaf; nid oedd arno arswyd marw.

Yn ei oriau olaf byddai ambell fynyd yn syllu ar ryfeddodau y pethau ag oedd yn ymyl ymagor o'i flaen, pan feddyliai ei fod ar gael gweled person Crist fel y mae. Yr oedd ei syndod yn annhraethol. Yr oedd yn barod i ddywedyd fel Robert Hall, "Tyred, Arglwydd Iesu, yn wir, tyred ar frys."

Y mae colled fawr i'r eglwys yn Rock ar ei ôl. Gan fod ei berthynasau wedi eu claddu yn ardal Oshkosh aethpwyd a'r corff yno i'w gladdu. Yr oedd ef a'i briod Mrs. Evans yn gorwedd yn glaf yr un pryd. Y mae arwyddion gwella ar Mrs. Evans, er fod dwy don yn ymdori arni ar unwaith - afiechyd a cholli cydmar bywyd.

Ein gweddi yw ar iddi gael adferiad buan. Daeth ei fab, y Parch. D. E. Evans, o Minneapolis, Minnesota, a bu ei ofal yn fawr am ei dad yn ei hir gystudd.

Sabboth Mawrth 20fed, pregethwyd yn y capel i dorf fawr, bregeth angladdol gan yr ysgrifenydd.
G. R. EVANS.

Y Drych ~ Mawrth 31ain 1898.