MRS. JANE W. EVANS. MORIAH, COLUMBUS, WISCONSIN.
Mehefin 15fed, 1898, yn ardal Gymreig Moriah, ger Columbus, Wisconsin, bu farw Mrs. Jane W. Evans, priod y diweddar William W. Evans, Bronheulog, yn 79 mlwydd oed, ar ddydd ei hymddatodiad.Merch oedd hi i Mr. Thomas Parry, Tyddyn Bach, Llanllyfni, lle y preswyliai hi yn adeg ei phriodas â Mr. Evans, yn nechreu y flwyddyn 1845. Yn fuan ar ôl priodi ymfudodd y ddau i America, gan ddisgyn yn sefydliad Cymreig Columbus, Wisconsin, i'w wneyd yn gartref gweddill eu dyddiau. Trwy lafur a gofal, a bendith y nefoedd ar eu hymdrechion, llwyddasant i enill safle gefnog o ran eu hamgylchiadau tymorol.
Cawsant fagu pump o feibion i oedran addfed, ac y mae pedwar yn fyw eto, William, John, Hugh a Thomas. Bu farw Evan Medi 17eg, 1878, gan adael gweddw a dwy o enethod amddifaid ar ei ôl. Ionawr 20fed, 1893, bu farw un o'r ddwy, Amanda; y mae y weddw a'r ferch arall yn fyw eto.
Collodd Mrs. Evans ei phriod Ebrill 11, 1874, ar ôl bod yn gystuddiol am lawn dwy flynedd a haner. O'r adeg hono hyd derfyn ei hoes bu hi yn trigianu yn yr hen gartref, gyda John. y mab, sydd yn briod ag Ann, merch Mr. David R. Owens a'i ddiweddar briod. Cafodd gartref clyd, a gofal tyner iawn yn llesgedd ei dyddiau olaf; ac yr oedd hi yn un o ysbryd mor ragorol, fel yr oedd hi yn ddarn hanfodol o'r teulu yno hyd y diwedd.
Bu yn aelod crefyddol yn eglwys Bethel a Moriah yn ddiweddarach, yn y sefydliad hwn, am dros haner canrif o amser. Nodweddid hi gan dawelwch tangnefeddus, a dyfalwch ffyddlawn. Bu yn dylyn yr arch cyhyd ag y caniataodd nerth iddi, ac ar ôl dechreu methu, dymunodd am gael cyfeillach fechan yn y tŷ, gyda swyddogion yr eglwys ac eraill. Y pryd hwnw ymddangosai fel un yn addfedu yn ei phrofiad, er ei gwylder.
Cafodd angladd parchus iawn ar yr 17eg dylynol i'w marwolaeth, pryd y troes corff mawr trigolion y sefydliad a'r ddinas allan i dalu y deyrnged olaf i'w gweddillion. Cyflawnwyd y gwasanaeth cref- yddol gan y Parchn. Griffith Griffiths a John R. Jones, yr olaf yn traddodi pregeth ar yr achlysur fel arferol, oddiwrth 2 Samuel 20 19.
Bydd ei lle yn wag yn nheulu ei mab, yn eglwys Moriah, ac yn yr holl ardal, a theimlir chwithdod am dani gan luaws o edmygwyr.