MRS. JEANETTE EVANS, BIG ROCK, ILLINOIS.
Bu farw y wraig rinweddol hon yn Big Rock, Illinois, Rhagfyr 14, 1898. Ganwyd hi yn mhlwyf Llandderfel, Sir Feirionydd, Cymru, Mai, 1821, yn ferch i John ac Anne Williams, ac yn un o wyth i'w rhieni.Priodwyd hi gyda Hugh K. Morris yn 1844, ac ymfudasant i'r America yn 1847, gan sefydlu ger Waterville, Wisconsin. Ganwyd iddi ddeg o blant - yr henaf, Catherine, yn wraig i'r Parch. Henry Davies, Bangor, Wisconsin; Ellen, yn briod i R. W. Hughes; Sarah, i E. Ingram; Jeanette, i J. E. Williams; Mary, i Ivor Harris; a David J., wedi priodi ac yn byw yn Big Rock.
Bu farw ei phriod, ar ol wyth mlynedd ar hugain o undeb dedwydd.
Priododd hi eilwaith, yn 1874, gyda David S. Evans, Oshkosh, a pharhaodd yr undeb hwn bedair blynedd ar hugain, - hyd ei farwolaeth ef, Mawrth 18, 1898, wyth mis o'i blaen hi.
Heblaw ei diwydrwydd, ei hawddgarwch, a'i rhinweddau cymdeithasol amlwg, yr oedd Mrs. Evans yn wir grefyddol "ac yn etifedd y deyrnas,” o'r hon y bu yn aelod defnyddiol ar y ddaear.