MR. ROBERT EVANS. 45 ASYLUM STREET, CLEVELAND, OHIO.
Awst 19eg, 1898, yn ei gartref, 45 Asylum Street, Cleveland, Ohio, Robert Evans.Ei glefyd oedd cancer yn yr ystumog, o'r hwn y bu yn nychu am, dri mis.
Ganwyd ef yn Ngogledd Cymru, 58 mlynedd yn ôl. Pan yn ddeunaw oed symudodd i Blaina, De Cymru, lle y bu yn gweithio yn y melinau fel pydler.
Yn mis Awst, 1859, ymunodd mewn priodas a'r hon sydd heddiw mewn galar ar ei ôl. Ymfudasant i Cleveland, Ohio, yn 1863; ac yma y treuliodd ef weddill ei oes, oddigerth tair blynedd yn Troy, New York.
Yr oedd yn Werinwr i'r carn, ac yn gymydog tawel, heddychlon, a chymwynasgar, parod bob amser i wneyd yr hyn a allai dros bawb, yn enwedig Cymro. Yn Nghymdeithas y Cambro-Americans llanwodd y swydd o Drysorydd am ddwy flynedd, ac yr oedd bob amser yn ffyddlon ac ymdrechgar i ddyrchafu y Cymro. Yn y dosbarth yr Ysgol Sul chwiliai yr Ysgrythyrau a'i holl galon, gan ddyfod i wybodaeth o drefn fawr yr Iachawdwriaeth: ac yn yr eglwys yr oedd yn ddefnyddiol a gweithgar. Er na feddai ar lawer o ddawn siarad, eto yr hyn a allodd hwn efe a'i gwnaeth, trwy ei gymeriad moesol uchel a'i ymddygiad gwylaidd a di-ymhongar. Yn ddiweddar etholwyd ef yn ddiacon ar eglwys Gymreig St. Clair Street, (T. C.,) lle yr oedd yn aelod, a llanwodd y swydd gyda boddlonrwydd. Efe hefyd ydoedd trysorydd yr eglwys.
Gadawodd i alaru ar ei ôl, briod, dau fab a phum merch, oll yn eu maint - Leah, priod yr heddgeidwad Beyton; Morfydd, priod Frank Williams; John yn Pittsburg, Pennsylvania; Robert, Eliza, May a Fannie gartref.
Trwy ddiwydrwydd gadawodd ei deulu mewn amgylchiadau cysurus iawn.
Am ddau dydd Llun daeth torf fawr yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i'w weddlillion. Wedi gwasanaeth byr yn y tŷ awd a'i gorff i'r capel Cymreig, lle y gwasanaethodd y Parch. E. P. Thomas yn Gymraeg a Saesneg, a Dr. William Gaston yn Saesneg, gan ddwyn tystiolaeth uchel am dano fel dyn a Christion. Gallwn ddweyd heb ofni ameuaeth nad oedd iddo elyn yn y byd, am ei fod bob amser a gair da i bawb; ac yr oedd iddo yntau air da gan bawb a chan y gwirionedd ei hun.
Dyoddefodd gystudd caled, ond yn hollol amyneddgar. Claddwyd ei weddillion yn barchus yn Harvard Grove, Mr. Thomas yn gwasanaethu ar lan y bedd.
Fel arwydd o barch anfonodd yr eglwys, yr Ysgol Sul a Chymdeithas y Cambro-Americans flodau-glymau hardd i'w gosod ar ei arch.
GOMER.