MRS. ELLEN FIGG. WILLIAMSBURG, IOWA.

Hydref 26ain, 1898, yn Williamsburg, Iowa, Mrs. Daniel Figg, yn 39 mlwydd, 4 mis a 10 diwrnod oed.

Merch ydoedd i David M. Roberts a'i briod Ellen, sydd yn cartrefu yn Williamsburg. Ei henw morwynig ydoedd Ellen, a ganwyd hi yn Ffestiniog, Gogledd Cymru.

Daeth gyda'i rhieni i'r wlad, hon pan rhwng deg ac un ar ddeg oed.

Yn Ebrill, 1884, ymbriododd â Daniel Figg, o ardal Williamsburg. Gadawa ar ei hol bump o blant, un ferch a phedwar bachgen.

Yr oedd yn ddynes hawddgar a chrefyddol, ac yn un o edrychiad iachus iawn.

Cydymdeimlir yn ddwys a'r teulu. Teimlir yn fawr dros yr amddifaid bychain.

Y Drych ~ Tachwedd 3ydd 1898.