MRS. ANNE JONES, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Awst, 16eg, Yn Utica, o anhwylder yn y galon, yn 40 mlwydd oed, Anne, gwraig Mr. Edward Jones, o ddinas Caerefrog-Newydd; a gynt o Groesoswallt, Gogledddir Cymry.

Bu'r drengedig yn dyoddef dros amser maith. Aethai i'r lle uchod gan ddysgwyl adferiad iechyd, ond môr siomedigaethus yn aml yw pethau'r bywyd hwn, marw a wnaeth, a myned i ffordd yr holl ddaear. Ganwyd Mrs. Jones yn Nolgellau. Cafodd y fraint o'i dwyn i fynu o'i mebyd yn nghymdeithas eglwysig y Trefnyddion Calfinaidd, ac yn lled ieuangc bu amrysoniadau â'i meddwl am ei chyflwr, a barodd iddi benderfynu rhoddi ei hun i'r Arglwydd a'i bobl.

Bu yn aros rai blynyddoedd yn Aberystwyth; symudodd oddiyno i Groesoswallt, lle y priododd yn nechreu y flwyddyn 1844, ac yn mis Mai, ymfudodd yn nghyfeillach ei phriod i'r wlad hon. Cartrefodd wedi dyfod yma, hyd o fewn dau fis i'w marwolaeth, yn New York, pryd yr aeth i Utica, fel y crybwyllir uchod. Aethai Mr. Jones yno ati, ond cymerwyd ef yn glaf iawn yno, a gorfu arno ddychwelyd. Yr oedd arwyddion gwella ar Mrs. Jones y pryd hwnw, ond cyfnewidiodd er gwaeth, ac ar roddi hysbysiad dioed i'w chydmar, ac iddo yntau ymadael gyda'r agerfad gyntaf, yr oedd hi wedi ffarwelio â'r byd hwn rai oriau cyn iddo gyrhaedd yno.

Mewn eglwys Bresbyteraidd Saesonaeg yr oedd hi yn aelod pan y bu farw.

I drigfan uwchlaw drygfyd — mewn hyder
Mwyn hedodd ei hysbryd;
I elfen anfarwolfyd,
Ac yno byth gwyn ei byd.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Medi 1848.