MR. JOHN G. JONES, TURIN, NEW YORK.
Gwrthrych y Cofiant hwn ydoedd fab i'r diweddar Griffith Jones a Sidney Jones, Bryncelyn, Llanengan, Caernarfon. Ymfudasant i America yn 1818.Yr oedd Cymry swydd Oneida yn dra adnabyddus a'r hen gristion Griffith Jones. Bu yn henuriad eglwysig yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd yn Remsen dros amryw flynyddoedd. Rhoddodd yr Arglwydd iddynt 11 o blant, a John ydoedd y pedwerydd.
Ymunodd yn y stad briodasol â Jane, merch i Richard Williams, Lleyn, swydd Gaernarfon, yn 1827. Bu iddynt 8 o blant - 5 o ba rai, sef dau fab a thair o ferched, sydd yn awr yn fyw. Ymunodd John G. Jones ag achos yr Arglwydd ddeg mlynedd yn ôl gyda y Trefnyddion Wesleyaidd yn Turin, a pharhaodd mewn undeb gyda phobl yr Arglwydd hyd y diwedd; ac er iddo gyfarfod â llawer o anfanteision a chroesau yn ystod ei oes grefyddol, eto gyda phobl ac achos Duw yr oedd cartrefle ei feddwl.
Yr oedd amryw bethau tra theilwng yn nghymeriad ein hanwyl frawd hwn. Yr oedd fel cymydog yn blaen a diderbyn wyneb, ac yn fawr dros gadw at gyfiawnder mewn prynu a gwerthu a.y., nes ydoedd wedi enill parch a chymeradwyaeth yn mhlith Cymry a Saeson. Yr oedd dweyd y gwir bob un wrth ei gymydog yn beth agos at ei feddwl, ac nid lladd yn nghefn ei frawd a gwenu yn ei wyneb. Meddai egwyddor onest a diragrith, ac yr oedd yn siampl i'w dylyn yn ei uniondeb, ac o na bai mwy o'n Cenedl yn debyg iddo yn y peth hyn! Fel pen teulu yr oedd dros gadw trefn a dysgyblaeth ar ei thraedlles tymhorol ac ysbrydol ei deulu ydoedd fawr yn ei olwg, ac yr oedd yr ufudd-dod a'r parch mwyaf yn cael eu dangos iddo gan ei blant, o'r mwyaf byd y lleiaf.
Yr oedd yn ddiysgog yn ei ymlyniad gydag achos yr Arglwydd - byddai yn gyson yn y moddion gras a byddai raid fod rhyw anhwylusdod mnwr cyn y byddai yn absenol. Ei sêl a'i fywiogrwydd yn moddion gras ydoedd ganmoladwy. Nid oeraidd a chleuar ydoedd, ond yn wresog yn yr ysbryd yn gwasanaethu yr Arglwydd. Byddai yn barod i gyfaddef ei golliadau a hyny dan wylo yn dost, a hyfryd oedd ganddo feddwl am drefn Duw yn maddeu i'r edifeiriol. Y mae yn hyfryd genym adgofio ei ffyddlondeb diffino yr haf diweddaf yn y cymhorth a roddai i adeiladu capel newydd “Nebo” ar y Tuck Hill, Turin; bydd yn golled i'r achos ar amrywiol ystyriaethau i golli y brawd hwn. Yr ydym yn gobeithio ei fod wedi myned o'r Nebo hwn i'r Ganaan nefol.
Bu yn gystuddiol am tua deufis. Nid oedd yn meddwl ar y cyntaf y byddai i'r cystudd hwn derfynu ei fywyd, er fod yr olwg arno yn tystio i bawb eraill nad oedd i fod yma yn hir. Dywedai wrth ei gyfeillion mai da fuasai ganddo gael byw gyda ei anwyl wraig a'i blant, ond "yr wyf yn foddlon (meddai) i ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.” Pan oedd un o'r brodyr yn gofyn iddo ychydig ddyddiau cyn ei ymadawiad pa fodd yr oedd ar ei feddwl wrth wynebu marw, atebodd dan wylo mai ei golliadau a'i fyw pell, oddiwrth yr Arglwydd wrth a ddylasai fod oedd ei ofid penaf yn awr. “ Ond(meddai) yr wyf yn hyderus fy mod yn gwybod beth yw ymddiried yn Nghrist a rhoi fy hun iddo;” ac adroddodd gyda phwys y gair hwnw, “Er i ti buteinio gyda chariadau lawer eto dychwel ataf fi” - y mae hyn fel cordial i mi.
Pan ofynai brawd iddo ar dro arall pa fodd yr oedd ei grefydd yn ymdaro yn yr amgylchiad sobr hwn, atebai gan roi ei law ar ei fynwes na chymerai mo'r bydoedd i gyd am y gobaith oedd ganddo. Dywedodd mai lle gwael i feddwl dechreu crefydda oedd gwely cystudd — mai mewn bywyd y mae gwasanaethu Duw. Gobeithio y bydd y tro galarus hwn yn fendith i'w anwyl briod i ddyfod i ymofyn am y Priod a ddeil a'r Cyfaill a lŷn yn well na brawd, ac y bydd iddi gyda ei hanwyl blant amddifaid o dad i ofalu am danynt yn y byd profedigaethus hwn, roddi eu gofal ar Dad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon yn ei breswylfa sanctaidd.
Felly y gorphenodd ei ddyddiau, Mehefin 5ed, 1848, yn y 43 mlwydd o'i oedran. Y dydd Mawrth canlynol ymgasglodd torf luosog o Gymry a Saeson at dŷ yr angladd. Cyn cychwyn darllenwyd a gweddiwyd gan yr ysgrifenydd ac hebryngwyd ei ran farwol i fonwent Tuck Hill, a phregethwyd gan y Parch. Wm. Jones, Utica, oddiwrth Luc 16 ; 10–12 yn Gymraeg, a'r Parch. J. Jones oddiwrth Matt. 24: 44 yn Saesoneg, ac anerchwyd y gynulleidfa wrth y bedd gan y Parch. Mr. Hurd, Turin.