MRS. DOROTHY GRIFFITHS. SALEM, COLUMBUS, WISCONSIN.
Hydref 5ed, 1898, yn sefydliad Cymreig Columbus, Wisconsin, yn 78 mlwydd oed, Mrs. Dorothy Griffiths, gweddw John W. Griffiths.Ganwyd hi yn Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn 1820. Merch ydoedd i William P. Griffiths, Plas Llanwnda, Arfon, a'i briod, y rhai a ymfudasant i America yn 1845, gan ymsefydlu dros weddiil eu hoes yn sefydliad Columbus, Wisconsin.
Yn ngwanwyn 1845 seliwyd amod priodasol rhyngddi hi a John W. Griffiths o Pen y Cafn, ger Caernarfon. Ganwyd iddynt ddau o feibion ac un ferch.
Yn 1854 symudasant hwythau i America, gan ymsefydlu gerllaw cartref ei rhieni. Yno y bu farw y teulu oll ond y ferch yn unig, yr hon sydd yn fyw eto, ac yn preswylio gerllaw Emporia, Kansas.
Blwyddyn drallodus iawn oedd 1866 i Mrs. Griffiths, gan i'r typhoid fever dori allan yn y teulu. Bu farw William, y mab hynaf, Awst 15fed, yn 20 mlwydd oed. Medi 27ain, symudwyd y mab ieuengaf, yn 14 oed. Hydref 8fed, bu farw ei phriod, yn nghanol irder einioes. Gadawyd hi yn unig i ofalu am ferch fechan, gan ymladd ei ffordd goreu y gallai. Cafodd y ddwy ofal a ffafr Duw, yn gystal a chariad a gofal brodyr a chwiorydd, i fyw heb arnynt angen dim daioni, er hyny. Yr oedd Mrs. Griffiths yn aelod o eglwys Salem ar hyd y 44 mlynedd a dreuliodd yn yr ardal.
Cafodd angladd parchus iawn Hydref 8fed, y Parchn. John R. Jones, G. Griffiths a John Michael Hughes, Kansas, yn llenwi y gwasanaeth. Claddwyd hi gerllaw addoldy Salem, yn nghladdfa y teulu.
Y Drych ~ Hydref 20fed 1898.
MRS. DOROTHY GRIFFITHS. SALEM, COLUMBUS, WISCONSIN.
Hydref 5, 1898, yn 78 mlwydd oed, yn ardal Salem, sefydliad Columbus, Wisconsin, bu farw Mrs. Dorothy Griffiths, gweddw y diweddar John W. Grifflths, yr hwn a ddiweddodd ei yrfa yn yr un ardal.Ganwyd hi yn nhy ei thaid, Edward Roberts, Ystumguddieddg, Eifionydd, yn Chwefror, 1820. Merch ydoedd i'r diweddar William. P. Grifflths a'i briod, y rhai a symudasant i fyw yn Plas Llanwnda, Arfon, pryd yr oedd hi yn eneth bur ieuanc. Mrs. Griffiths oedd yr hynaf o ddeg o blant.
Yn ngwanwyn y flwyddyn 1845, y flwyddyn yr ymfudodd ei rhieni i America, i ymsefydlu yn ardal Salem, seliwyd cyfamod priodasol rhyngddi hi a John W. Grifflths, Penycefn, gerllaw Caernarfon. Bu y teulu yn cartrefu yno am oddeutu naw mlynedd. Ganwyd iddynt ddau o feibion, ac un ferch. Yn 1854 ymfudasant hwythau i America, gan ymsefydlu yn ardal Salem, Columbus, i wneyd eu cartref yno weddill eu dyddiau.
Blwyddyn drallodus iawn i Mrs. Grifflths oedd 1866, gan i'r clefyd peryglus typhoid dori allan yn y teulu mewn gwedd angeuol. Awst 15fed bu farw William, y mab hynaf, yn 20 mlwydd oed. Medi 27ain bu farw Edward, yn fachgen tyner 14 mlwydd oed. Hydref 8fed, o'r un flwyddyn, bu farw ei phriod. Y mae yn anhawdd darlunio dyfnder ei thrallod hi, pan wedi ei gadael yn weddw, heb ond un ferch amddifad yn weddill angeu, wedi ei gadael iddi. O hyny hyd derfyn ei gyrfa, profodd yr Arglwydd yn llond ei addewidion, mewn gofal cyflawn drosti hi a'r ferch amddifad.
Cafodd y fraint o dreulio corff mawr ei hoes yn yr eglwys. Bu mewn cymundeb gyda y T. C. yn Salem, Columbus, am 44 mlynedd, gan ddylyn y gwersyll gyda dyfalwch, yn nghanol llawer o anfanteision.
Byddai yn goddef cryn lawer gan waeledu iechyd ar adegau, mewn blynyddoedd diweddar. Yn y diwedd ymosodwyd arni gan y parlys. Bu yn analluog i siarad ond ychydig ar ôl yr ymosodiad cyntaf, er iddi adnewyddu cryn lawer o ran ei hiechyd, fel ag i allu dylyn moddion yn Salem rai troion, yn misoedd olaf yr haf.
Ar y dydd a enwyd hunodd yn angeu, wedi cael oes faith, a phrofi ei rhan o drallodion mewn bywyd. Hydref yr 8fed oedd dydd yr angladd, pryd yr hebryngwyd ei gweddillion i gladdfa Salem, i'w gosod gerllaw eiddo ei phriod a'r plant. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. John R. Jones, John Michael Hughes, Emporia, a Griffith Griffiths. Gadawodd un ferch, a'i theulu, dau o frodyr, a thair o chwiorydd, a llu o berthynasau eraill, mewn galar ar ei hol.
JOHN R. JONES.