MR. OWEN GRIFFITHS. MORRISVILLE, NEW YORK.
Awst 13eg, 1898, yn 76 mlwydd oed, Owen Griffiths, Morrisville, New York, ar ôl dyoddef cystudd trwm am amser maith yn dawel a dirwgnach.Mab ydoedd i David a Mary Griffiths, Penygraig, Llanengan, Sir Gaernarfon.
Daeth efe a'i briod i'r wlad hon tua 48 o flynyddau yn ôl. Gweithiodd yn galed, a chafodd ei ymdrechion eu coroni â llwyddiant.
Ni chafodd ond ychydig o fanteision crefyddol ar ôl gadael Cymru. Bu yn gwasanaethu ami rai blynyddau, yno gyda Roberts, y Castell, Llanrug, ac yr oedd argraff y dyn da hwnw i'w weled yn amlwg ynddo. Nid oedd ei ffyddlonach gyda Chymdeithas y Beiblau yn y wlad, ac nid oedd dim yn ei flino yn fwy na gweled dyn na phlentyn heb gartref; byddai ei dŷ ef yn agored bob amser. Yr oedd ganddo galon i deimlo a llaw i gyfranu pan welai angen am hyny. Gofynais iddo ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth am ei brofiad crefyddol, pryd y dywedodd "fod yr Arglwydd yn dda iawn wrtho, ac ei fod yn dangos rhywbeth newydid iddo o hyd."
Collodd ei wraig briod gofalus a'r gymydogaeth gymydog o'r iawn ryw. Fel gwladwr, Gwerinwr oedd, a dim arall. Ni fu ganddo blant, a'r unig berthynas yn y wlad hon yw Mrs. Mary Evans, gwraig Thomas Evans, West Eaton, New York, ei nith. Credir fod ganddo frawd yn fyw yn yr Hen Wlad yn agos i Groesoswallt.
Ar yr 16eg cafodd gladdedigaeth luosog, pryd y cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parch. E. D. Face yn Saesneg a chan yr ysgrifenydd yn Gymraeg. Gosodwyd ei gorff i orwedd yn mynwent Morrisville.
Bydded ei weddw wedi ei gadael yn unig yn ei henaint gael teimlo fod ei Barnwr yn dyner ac yn ofalus na chaiff gam.
THOMAS E. JONES.