MR. ROBERT G. HUMPHREYS, CHICAGO, ILLINOIS.

Tachwedd 9fed, 1898, yn ei breswylfod, ar West Monroe Street, bu farw Robert G. Humphreys, yn 75 mlwydd oed. Ganwyd ef yn mhlwyf Llangwnadl, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, Mai 9fed, 1823.

Ymfudodd ei rieni, gyda'u plant, ddeg o honynt, i ardal Remsen, New York, yn 1840. Cawsant fordaith helbulus mewn llong hwyliau am wyth wythnos, a buont am ddyddiau mewn prinder dwfr.

Ymbriododd a Miss Mary Ann Owen, Utica, yn 1853. Daethant i ardal Cambria, Wisconsin, yn 1856, ac yn 1885 gwnaethant eu cartref yn Chicago. Ganwyd iddynt ddau o feibion ac un ferch, oll yn fyw . Efe oedd y cyntaf o'r teulu i farw.

Cafodd fywyd priodasol o 45 mlynedd heb weled arch yn ei dy. Yr oedd yn ddirwestwr tra selog, ac yn aelod eglwysig gyda'r T. C. yn Hebron. Bu yn athraw diwyd yn yr Ysgol Sul am flynyddau.

Pan yn Cambria, cafodd ei ethol yn ddiacon, ond ni weithredodd. Yr oedd yn ddyn o argyhoeddiadau crefyddol dwys, ac o ymarweddiad difrycheulyd. Er yn ddiymhongar a distwr, yr oedd ei ddylanwad yn ddyrchafol a'i gymdeithas yn felus fel y goleuni.

Teimlwn hiraeth am dano, a cholled o'i ymadawiad; ond gwyddom fod ei lygaid ef yn gweled y Brenin yn ei degwch.

Dydd Gwener, Tachwedd 11, cynhaliwyd gwasanaeth yn y ty gan yr ysgrifenydd a Robert Humphreys; yna aeth y teulu a'r gweddillion gyda'r tren i Cambria, lle yr oedd y Parchedig R. T. Roberts, M. A., Racine, yn arwain y gwasanaeth. Nodded y Nefoedd fyddo dros ei weddw a'r plant.

Y Lamp v.3-4 ~ 1899-1900.