MISS. ANNIE HUXLEY. NEW YORK.
Rhagfyr 14eg, 1898, o'r darfodedigaeth, yn ninas New York, bu farw Annie, merch Thomas a Catherine Huxley, yn 17 mlwydd ac 8 mis oed.Brodor o Felin Bont Faen, plwyf Llanfaglen, yn agos i dref Caernarfon, Gogledd Cymru, ydyw Mr. Huxley; ac y mae Mrs. Huxley yn eneidigol o'r Groeslon, yr hwn sydd yn lled agos at y lle uchod. Yn y lle olaf y ganwyd eu hanwyl ferch Annie, ac o'r lle hwnw y daeth y teulu i ddinas New York bedair blynedd ar ddeg yn ôl, ac y maent yn adnabyddus yn mysg Cymry y ddinas fel teulu crefyddol a pharchus.
Cafodd Annie gystudd caled a maith, yr hwn a ddyoddefodd yn amyneddgar, gan ddysgwyl am y gobaith gwynfydedig. Ar y 18fed o'r mis hwn casglodd tyrfa, ac yn eu plith ei chydnabyddion ieuainc, i dalu y gymwynas olaf iddi.
Canwyd un o'i hoff emynau gan Owen E. Owens a'i ddwy ferch a Joseph Hughes, a gweinydidwyd gan Mr. William Jones a'r ysgrifenydd.
JOSEPH ROBERTS.