MRS. CATHERINE JONES. DUTCH VALLEY, BANGOR, WISCONSIN.

Rhagfyr 17eg, 1898, ar ôl hir waeledd, Mrs. Catherine Jones, gweddw Evan G. Jones, Dutch Valley, gerllaw Bangor, Wisconsin.

Ganwyd hi yn Corris, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, Taehweidd 29ain, 1825.

Ei henw cyn iddi briodi oedd Catherine Thomas.

Daeth hi a'i chwaer i'r Talaethau Unedig yn 1852.

Priododd Evan G. Jones yn 1853; ac ymsefydiasant yn mhlwyf Trenton, Swydd Oneida, New York.

Ganwyd iddynt bedwar o feibion a dwy o ferched, ac maent oll yn fyw ond John J., eu mab hynaf, yr hwn a fu farw yn South Dakota yn 1893.

Bu farw ei gŵr yn 1895; a'i brawd, Lewis Thomas, yn 1869. Yn ngwanwyn 1865 daeth hi a'r holl deulu i Dutch Valley. Bu Mrs, Jones fyw flynyddau olaf ei bywyd gyda ei merch ieuengaf, Mrs. Roberts, ar y fferm yr ymsefydlodd y teulu arni yn Dutch Valley yn 1866. Cymerodd Mrs. Roberts ac eraill o'i theulu y gofal mwyaf tyner o'u mam fethiantus tra fuo byw; yr Arglwydd a'u gwobrwyo am eu tiriondeb yn yr hyn a wnaethant iddi.

Cafodd Mrs. Jones ei chodi a'i dwyn i fyny gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Nghymru, a pharhaodd yn aelod ffyddlon gyda'r enwad hwn drwy ei hoes. Ystyrid hi yn gymydoges gymwynasgar, yn wraig serchog a mam dyner a gofalus. Cafodd ei bendithio a chof da, yr hyn a'i galluogodd i wneyd ei chymdeithas yn ddifyrus pan yn gwrando arni yn crybwyll rhyw ranau o'r BeibJ, neu ryw ran o bregeth ragorol a fu yn ei gwrando. Cafodd lawer o bleser a budd yn darllen ei Beibl a'r Llyfr Hymnau.

Amryw o flynyddau yn ôl cafodd ergyd o'r parlys, yr hyn a wnaeth niwed mawr iddi, gorff a meddwl, dros weddill ei hoes. Cafodd lawer iawn o dreialon yn ystod ei bywyd, ond goddefodd yr oll ohonynt mewn ysbryd gwir blentyn i Dduw.

Cymerodd ei chladdedigaeth le ddydd Mawrth, Rhagfyr 20fed, 1898. Cynaliwyd y rhan grefyddol o'r gwasanaeth angladdol yn addoldy yr enwad y bu yn aelod am lawer o flynyddoedd yn Bangor, Wisconsin, Y Parch. R. T. Roberts, Racine, Wisconsin, a bregethodd y bregeth angladdol, ac a arweiniodd y gwasanaeth yn y capel, pryd y siaradodd y Parchn. J. S. Wilson., A. Le Grand a J. J. Vaughan.

Claddwyd hi yn mynwent Fairview, Bangor. "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig."

Y Drych ~ Ionawr 12fed 1899.