MRS. CATHERINE MORRIS JONES. EMPORIA, LYON COUNTY, KANSAS.

Marwolaeth a Chladdedigaeth Priod y Parch. John Jones, Emporia, Kansas.

Fel yr hysbyswyd yn y "Drych" am yr 2il cyfisol, bu farw Mrs. Jones, priod y Parch, John Jones, boreu y Sadwrn olaf o Fai, ar ôl dyoddef cystudd maith a phoenus, yn hynod o amyneddgar. Dechrouodd ei hafiechyd mewn neck tumor, lawer o flynyddau yn ôl, a therfynodd mewn Rose cancer.

Ganwyd a magwyd Mrs. Jones yn Beddgelert, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, un o'r llanerchau mwyaf prydferth a rhamantus ar y ddaear. Tua 1852 ymunodd mewn priodas gyda'n hanwyl frawd, y Parch. John Jones. Treuliasant 15 mlynedd o'u bywyd priodasol yn Nghymru, lle yr adwaenir ef hyd heddiw fel y Parch. John Jones Rhydbach.

Wedi symud i America sefydlasant yn Middle Granville, New York, lle y bu Mr. Jones yn gweinidogaethu gyda chymeradwaeth fel bugail ar eglwys y T. C. yno. Yn 1870 symudasant i'r Gorllewin, gan wneud eu cartref yn yr ardal hon byth er hyny ac y mae cysylltiadau gweinidogaethol ein parchus frawd wedi bod yn faitha hapus yma.

Teimlwn fod agosrwydd y berthynas rhwng gŵr a gwraig bob amser yn peri fod yn amhosibl ysgrifenu hanes y naill heb ddwyn i mewn lawer o hanes y llall befyd. Wrth ddweyd hyn nid ydym yn awgrymu fod y naill o ran agweddau gwahaniaethol ei gymeriad yn ymgolli yn y llall. O'r ochr arall ni awgryma ychwaith nad oes cryn lawer o ymdebygoliad yn cymeryd lle rhwng y naill a'r llall. Y mae ambell gymeriad wedi tyfu mor gryf nes bod yn anhyblyg fel y dderwen. Gwelir un arall yn agored i bob dylanwad, ac fel yr helygen yn plygu gyda phob awel. Cyfryngodd Mrs. Jones o'r ddau i raddau. Yr oedd yn dyner a serchog, eto yn gryf a gonest.

Dywedir fod amgylchedd (environment) a chymdeithas, yn meddu ar ddylanwad amlwg yn ffurfiad y cymeriad dynol. Credwn fod mesur o wirionedd yn hyn, fel ei gwelid yn hanes ein chwaer ymadawedig. Yr oedd yn wir blentyn natur, yn hollol gywir i natur, yn hollol gywir i natur yn yr hen ardal lle ei magwyd wrth droed yr Eryri. Yr oedd fel y ddol rhwng y mynyddoedd, yn hoffi tawelwch a hedd. Fel y Laslyn loew, yn brydferth, cyson hael a phur; ac fel y mynyddoedd ban oddiamgylch, yn gyfoethog, yn gyfoethog o adnoddau, yn onest a didderbynwyneb, ac yn mhob amgylchiad yn cadw ei golwg i fyny.

Tuedd addysg ddiweddar yw gwastahau a thebygoli cymeriadau, a thrwy hyny prinhau y cymeriadau cryfion a gwreiddiol a dyfent gynt ar eu gwreiddiau eu hunain. Cymeriad hynod o wreiddiol oedd ein gwrthrych. Nid oedd yn tebygu i neb, ac eto hoffid hi gan bawb ar y cyfrif hwnw. Yr oedd yn siriol a charedig neillduol. Byddai wrth ei bodd yn gweini i reidiau gweision yr Arglwydd, pan y lletyent dan ei chronglwyd, ac y mae llawer yn America a Chymru yn dystion byw i'w charedigrwydd a'i hymdrech wastadol i'w gwneyd yn gartrefol tra yn ei thy.

Casai bob rhodres a choeg-falchder a chas cyfiawn, ac weithiau rhoddai fynegiad lled uniawn i'w syniadau am bethau o'r fath, a hyny fel rheol mewn ysbryd caredig a didramgwydd. Er hyn oll, meddai ar fath neillduol o falchder ei hunan, ond fel y dywedasom o'r blaen, yr oedd hi yn ei balchder yn wreiddiol a gwahanol i bawb eraill, ac y mae mesur o falchder yn anhebgorol i hunanbarch. Oni buasai am hyn, pell fuasai Mrs. Jones o fod y cymeriad ydoedd.

Yr oedd yn fam dyner a gofalus, ac yn briod ffyddlawn ac ymroddgar. Gwnai bobpeth yn ei gallu er cynorthwyo ei phriod yn nghyflawniad ei ddyledswyddau gweinidogaethol. Yr oedd yn foddlon i aberthu pob peth personol er mwyn hyrwyddo teyrnais Iesu Grist. Cymerai ddyddordeb mawr yn y genadaeth, a'r cwestiwn cyntaf fel rheol pan ddeuai y "Cyfaill" a'r "Cenhadwr" i law yn fisol fyddai "Beth am y genadaeth y mis yma?" a dyna yn gyffredin a gai ei sylw cyntaf wrth eu darllen. Yr oedd o ysbryd tangnefeddus a heddychol; dewisai ddyoddef yn hytrach na chreu un math o gynwrf mewn byd nac eglwys. Byddai hefyd yn brydlon bob adeg i gyflawni pob addewid a dyledswydd yn ei hamser, hyd y byddai modd. Addurnid ei holl rinweddau gan grefydd Iesu Grist. Dyma goron ei chymeriad. Yr oedd yn Gristion cyson, gwastad, byth yn "uchel synied yn amgen nag y dylid synied." O'r ochr arall ni byddai byth yn syrthio i dir anobaith.

Cafodd rai profedigaethau chwerwon, onid aeth drwydidynt yn hollol ddirwgnach, a chaed llawer mynegiad cryf o sicrwydd ei hymddiried yn Nuw yn y cyfryw amgylchiadau. Rhywbryd pan yn dechreu gwaelu, soniai wrth ei phriod un diwrnod am gyfnewidiad a fwriadai wneyd yn un o ystafelloedd ei thŷ, ac metldai yntau mewn atebiad, yn ei ddull siriol ei hun, "Gad iddo, a meddwl am fynd i'r nefoedd;" ac yn y fan meddai hithau eilwaith: "I ba le yr af ond yno pan y daw yr adeg?"

Ychydig ddyddiau cyn ei marw yr oedd ei phriod yn eistedd wrth erchwyn ei gwely, yn gwylio ei haraf ymddatodiad, a dywedai wrthi ei bod yn son llawer wrthynt yn awr ac eilwaith am eu gadael, a gofynai iddi am air o'i phrofiad yn ngwyneb hyny, i'r hyn yr atebodd: "Mae'r afael sicraf fry," ac "y mae arnaf chwant i'm datod a bod gyda Christ," Gweithiodd ei pharodrwydd a'i hawydd hi i ymadael yn nghyd a'i chystudd poenus, ei phriod a'i phlant i foddloni yn rhyfedd i'r oruchwyliaeth, a chafodd hithau "fynediad helaeth i mewn i lawenydd ei Harglwydd," yn 71 mlwydd oed.

Gadawodd ar ei hol heblaw ei phriod, un ferch, Mrs. W. J. Jones, a dau fab, D. J. Jones a Rees M. Jones, Emporia, ac amryw frodyr a chwiorydd yn Nghymru.

Cafodd angladd hynod o luosog a pharchus o gapel y Tabernacle, yn ôl fel y dymunai. Dywedid fod yn agos i 50 o gerbydau yn yr orymdaith, ac wrth y fynwent ar Dry Creek, lle y daearwyd ei rhan farwol. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan yr ysgrifenydd, yn cael ei gynorthwyo yn effeithiol gan y Parchn. H..T. Whitby, E. P. Thomas o Cleveland, Ohio; H. M. King, D. D., Emporia. Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon fyddo yn dvner o'i phriod a'i phlant.
GAN Y PARCH, J. MICHAEL HUGHES Emporia, Kansas, Mehefin 15fed 1898.

Y Drych ~ Mehefin 23ain 1898.