MR. DAVID JONES, OSHKOSH, WISCONSIN.
Ar heol Pearl, rhif 136 , boreu Sabboth, Hydref 30ain, 1898, bu farw y gwr ieuanc caredig, David Jones, mab Robert a Catherine Jones, gynt o ' r Siop- bach , Dolyddelen, Cymru, yn 32 mlwydd oed.Cymerodd anwyd adeg llosgi melin y Morgan Company, tua thair blynedd yn ol, a throes yn ddarfodedigaeth arno.
Daethai efe, gyda'i fam weddw, i'r America yn Mai, 1879, pan tua 13 oed. Yr oedd, fel Jacob gynt, yn dra ymlyngar wrth ei fam, a gartref y treuliodd ei oes o'r bron.
Claddwyd ef ddydd Mawrth yn y Riverside Cemetery, pryd y cludid ei arch gan Joseph Davies, David J. Davies, William Davies, John Jones, John Morgan, a John Rowlands; ac y gweinyddwyd gan D. Davies.