MRS. ELIZABETH JONES. EAU CLAIRE WISCONSIN.

Awst 4ydd, 1898, yn Eau Claire, Wisconsin, Mrs. Elizabeth Jones, gwraig D. D. Jones, ar ôl gwaeledd o amryw flynyddoedd.

Ganwyd hi yn Llanuwchllyn, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, Tachwedd 7fed, 1830. ac felly yr oedd yn 67 mlwydd, 8 mis ac 27 o ddyddiau o oed. Merch ydoedd i John a Jane Vaughan.

Ymadawodd hi a'i rhieni a'r gweiddill o'r teulu am America, Ebrill 13eg, 1831; ac ymsefydlasant yn ardal Whitmore, ger Remsen, New York, lle y buont yn gymydogion y drws nesaf i William Davies, tad y Parch. Edward Davies, golygydd y "Cenhadwr."

Yn 1835 symudasant oddiyno i ardal Cefn y Gaer, lle y buont yn byw am amryw flynyddau. Ebrill 13eg, 1841, bu farw ei mam, pan oedd Mrs. Jones yn 10 oed.

Tachwedd 7fed, 1849, ymunodd mewn glan briodlas â David D. Jones o'r Llywena, Steuben, y Parch. William D. Williams, Marcy, (Deerfield) yn gweinyddu.

Yn 1856 daethant i Wisconsin, ac ymsefydlasant ger pentref Bangor, lle buont fyw am flynyddau. Yn 1866, daethant i fyw i bentref Bangor hyd 1882, pryd y symudasant i fyned i Eau Claire, Wisconsin, lle yr oedd dau o'r meibion yn gweithio mewn swyddi dan gwmni y Wisconsin Central. Aethant wedi hyny i Minneapolis i fyw, a thua thair blynedd yn ôl, o herwydd gwaeledd ei hiechyd, dychwelodd i fyw gyda'i merch ieuengaf, Mrs. C. J. Samuel, Eau Claire, lle bu fyw weddill ei bywyd.

Ganwyd iddynt dri o feibion a thair o ferched, oll yn fyw ond un ferch, Cornelia, yr hon a fu farw yn Steuben, Gorphenaf, 1862, pan oedd yn 10 mlwydd oed, ar yr achlysur o ymweliad y teulu a'r hen gymydogaeth.

Dychwelodd Mrs. Jones at grefydd tan weinidogaeth y Parch. Morris Roberts yn 1851. Ymunodd hi a'i gŵr ag eglwys Bethel, Remsen. Ar ôl dod i Wisconsin unodd ag eglwys Bangor, Wisconsin, a pharhaodd yn aelod ffyddlon, a bywyd a phroffes di-fwlch dros weddill ei hoes. Gellir dweyd am dani yn wirioneddol, ei bod yn meddu gwir grefydd. Ceisiodd fyw trwy ffydd, ac yr ydym yn hyderus iddi farw mewn llawn hyder ffydd.

Deuwyd a'i gwedidiillion i'w claddu yn mynwent Bangor, Awst 6ed; ac yr oedd llawer iawn yn bresenol. Gweinyddwyd gan y Parchn. Henry Davies, J. S. Wilson a A. Le Grand. Canwyd dau emyn wrth lan y bedd yn felus iawn. Canwyd yr hen benill hoff y buodd y chwaer ymadawedig yn canu llawer arno yn ei bywyd - "Yn y dyfroedd mawr a'r tonau." Traddododd y Parch. Henry Davies bregeth goffadwriaethol ar y Sabboth canlynol yn hen gapel yr Annibynwyr yn Bangor, lle y bu y chwaer ymadawedig yn aelod ffyddlon dros lawer o flynyddoedd. Cymerodd y Parch. J. S. Wilson hefyd ran yn y gwasanaeth yn Saesneg. Gwnaeth pob un o'r ddau frawd dywedig yn rhagorol.

Y Drych ~ Awst 25ain 1898.