MR. EVAN R. JONES. NANTICOKE, PENNSYLVANIA.

Ebrill 11eg, 1898, yn ei gartref yn Nanticoke, Pennsylvania, Evan. R. Jones, tua 60 mlwydd oed, o'r diabetes.

Ganwyd Mr. Jones yn Dolgellau, G. C. Ymfudodd; ef a'i gariadlon briod i'r wlad hon yn 1860. Sefydlodd, yn Summit Hill; aeth oddiyno i Audenried yn 1863. Daeth oddiyno yma 24 mlynedd yn ôl. Aeth oddiyno i Plymouth, Pennsylvania, ac oddiyno tua 24 mlynedd yn ôl. Gadawodd ei briod, yr hon sydd yn ddoctores, a'r plant canlynol i alaru ar ei ôl - Mrs. Catherine Jones, Glen Lyon; Richard, Thomas, Mrs. Arthur Evans, Mrs. David Griffithes a Miss Olwen ac Evan. Y ddau olaf yn nhref gyda'u mam.

Claddwyd ef yn mynwent Nanticoke; ac er fod y gweithfeydd oll yn dygwydd bod yn gweithio, yr hyn na wnant ond dau wyth awr yr wythnos yma yn bresenol, cafodd angladd tra lluosog. Profa hyn fod fy hen gyfaill dyddorol yn wir barchus drwy yr holl ardal.

Gweinyddwyd yn yr angladd gan y galluog Charles Jones, M. A., gweinidog y Bedyddwyr yn y lle hwn, yn wir effeithiol.

Heddwch i'w lwch anwyl o,
A heddwch enaid iddo. - Cilcenin.

Y Drych ~ Ebrill 28ain 1898.