MRS. MARGARET JONES. BROOKFIELD, MISSOURI.
Hydref 15fed, 1898, yn Brookfield, Missouri, ar ôl ychydig ddyddiau o gystudd, yn 78 mlwydd oed, Mrs. Margaret J. Jones, gweddw y diweddar Barch. Tudor Jones, Dubuque, Iowa.Yr oedd Mrs. Jones wedi ymfudo i America o Llangybi, Sir Gaernarfon, yn 1824, pan yn 4 mlwydd oed. Yr oedd ei thad yn nai i'r Parchn. Robert Roberts, Clynnog. a John Roberts, Llangwm, ac felly yn gefnder i'r Parch. Michael Roberts, Pwllheli.
Yr oedda ei mam yn ferch i'r adnabyddus Pedr Fardd, ac yr oedd yr enwog Nicander yn gefnder iddi.
Mae rhieni Mrs. Jones wedi eu claddu yn New York Mills ger Utica.
Claddwyd ei gwedidillion hi yn Brookfield wrth ochr ei gŵr cyntaf, Mr. John Griffiths.
J. M. H.