MRS. MARY JONES. BANGOR, PENNSYLVANIA.
Awst 20fed, 1898, yn Bangor, Pennsylvania, yn 51 mlwydd a 7 mis oed, Mrs. Mary Jones, priod David G. Jones (Castell). Yr oedd Mrs. Jones yn y wlad hon er's 25 mlynedd, y rhai a dreuliodd yn Bangor oddigerth dwy flynedd.Daeth tyrfa luosog i dalu y gymwynas olaf iddi.
Gweinyddwyd gan y Parchn. Hugh Hughes a, J. J. Evans. Gadawodd i alaru ar ei hol briod a phedwar o blant, Ann, Hannah, Griffith a Robert, a dau frawd yn Bethesda, Arfon, Owen a Richard, Penybryn.