MR. ROBERT JONES. EAST BOSTON, MASSACHUSETTS.

Mawrth 28ain, 1898, yn East Boston, Massachusetts, o glefyd y galon, Robert, mab Mr. a Mrs. William Jones, 202 Marginal Street, yn 37 mlwydd oed.

Ganwyd ef yn Llanfairfeichan, Gogledd Cymru. Daeth i'r wlad hon yn mis Mai, 1884.

Priododd Tachwedd 25ain, 1891. Bu ei briod farw Mawrth, 1896. Ganwyd iddynt un ferch, sef Jessie, yr hon sydd gyda ei thaid a'i nain.

Claddwyd ef ddydd Mercher, Mawrth 30ain, yn East Boston Cemetery.

Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Crocker a Lockwood. Cydymdeimlir a'r perthynasau trallodedig a galarus. Dyma ddau o feibion — Hugh yn yr Hydref diweddaf a Robert mor fuan ar ei ôl, wedi eu gadael, a'u "lle nid edwyn ddim o honynt mwy."

Y Drych ~ Mai 26ain 1898.