MRS. RUTH JONES. DAWN, MISSOURI.

Chwefror 11eg, 1898, yn ei chartref yn ardal Dawn, Missouri, yr hen chwaer Mrs. Ruth Jones, gweddw Hugh E. Jones, yr hon anwyd yn ardal Bethesda, Sir Gaernarfon, Awst 7, 1815, ac felly oedd ychydig dros 82 mlwydd oed. Cafodd ei bendithio â chorff cryf, ac oni buasai i'r cancer ymosod arni diameu y buasai fyw am amryw flwyddi eto. Merch oedd i Robert Edwards a'i briod, Bangor, Gogledd Cymru.

Priododd yn Nghymru a'r Parch. H. E. Jones, yr hwn a fu farw yn yr ardal hon ychydig flynyddau yn ôl. Symudodd y teulu o Gaernarfon i Sir Fôn, a daethant i'r wlad hon. Buont yn cartrefu mewn amryw fanau yn Ohio ac Illinois; yna yn ardal Wales. Iowa, ond y deunaw mlynedd diweddaf yn ardal Dawn.

Bu Mrs. Jones yn ddynes ddarbodus a gweithgar drwy ei hoes, ac yr oedd yn feddianol ar synwyr cyffredin cryf. Pan mewn iechyd yr oedd yn siriol bob amser, a gellir dywedyd heb betrusder ei bod yn "Israeliad yn wir." Bu yn aelod crefyddol gyda'r Bedyddwyr drwy ei hoes faith, a chofiai iddi glywed pan yn ferch ieuanc y seraph bregethwr Christmas Evans yn pregethu.

Yr oedd yn cael llawer o bleser wrth ddarllen y "Drych," yr hwn a fu yn ymwelydd wythnosol yn y teulu am flynyddau. Gadawodd i alaru ar ei hol ddau fab a merch, sef Owen yn Lincoln, Nebraska, a Margaret yn briod â William R. Thomas, yn yr ardal hon, a Robert gartref. Bu Robert yn hynod o ofalus a ffyddlon i'w fam, gan wneyd pob peth yn ei allu i'w chysuro a'i meddyginiaethu.

Claddwyd hi yn mynwent y Cymry wrth ochr ei phriod, Chwefror 13eg, pryd y daeth lluaws o gyfeillion yn nghyd i weinyddu y gymwynas olaf iddi, y Parch. Thomas M. Griffiths, ei gweinidog, yn cyflawni y gwasanaeth crefyddol yn ddoeth ac effeithiol.

Y Drych ~ Mawrth 24ain 1898.