MR. WILLIAM E. JONES. MIDDLE GRANVILLE, WASHINGTON, NEW YORK.
Y DIWEDDAR WILLIAM E. MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.
GAN Y PARCHEDIG JOHN JONES, EMPORIA, KANSAS.Trwm i mi oedd derbyn telegram yn fy nghartref yn Emporia yn hysbysu am farwolaeth fy hen gyfaill, William E. Jones, Tachwedd 22ain, ac y byddai ei angladd ddydd Sadwrn, y 26ain.
Bore dranoeth cychwynais i'r dwyrain, gan ein bod wedi cytuno a'n gilydd, chwe blynedd yn ol, y byddai i'r un a oroesai fyned i angladd y llall, os amgylchiadau yn caniatau.
Da oedd genyf i'm bywyd gael ei arbed i fod yn bresenol gyda thyrfa fawr o gyfeillion i dalu y deyrnged olaf o barch i weddillion un a garwn mor fawr.
Ganwyd William E. Jones yn Beddgelert, Gogledd Cymru. Ei rieni parchus oedd Ellis a Catherine Jones; a brawd iddo oedd y diweddar Anrh. Eleazer Jones, ac felly yr oedd yn ewythr i'r Parch. Robert Ellis Jones, Llywydd presenol Hobart College, Geneva.
Cafodd ein brawd ergyd o'r parlys dros flwyddyn yn ol, a dyoddefoidd gystudd trwm hyd adeg ei ollyngdod, yn yr oedran o 77 mlwydd. Yn ystod ei waeledd ni arbedwyd na thraul na llafur tuag ato gan ei anwyl briod; ond er pob peth ei symud a wnaed i'r wlad well; a daearwyd ei gorff yn nghladdfa y teulu yn mynwent Middle Granville. Bydd y bedd a'r nefoedd bellach yn cyd-gadw y dyn, y naill yn gystal a'r llall. Nid yn unig mae y nef y lle goreu i gadw trysor; y mae y bedd hefyd yn lle diogel i gadw cyrff y saint, oblegid "Y meirw yn Nghrist ydynt yno;" a dywed y "Tyst ffyddlon a chywir," "a bod i mi ei adgyfodi ef yn y dydd diweddaf ac na chollwn ddim o hono."
Meddyliwn pan yn yr angladd fod y gynulleidfa oll yr un farn, ein bod yn claddu dyn duwiol y diwrnod hwnw; ac nid un a weithiodd yn dda ddim ond un awr yn y winllan. Y mae dyfod i'r winllan yn ogoneddus hyd yn nod ar yr unfed awr ar ddeg, oblegid mae yn werth gan berchen y winllan fyned allan i gyflogi ar yr awr bono. Ond am ein brawd, ei hanes ef ydyw — "A hi yn dyddhau y cyflogodd ef i'r winllan."
Pan oeddwn yn fachgen lled fychan, bum yn llygad-dyst o waith W. E. Jones yn cymeryd rhanau cyhoeddus mewn moddion crefyddol, megys areithio ar ddirwest a gweddio yn y capel. Gan i ni gael ein dwyn i fyny yn yr un ardal yn Nghymru, a'n dau gartref o dan yr un to, cyfarfyddiad hapus i ni oedd ag ef 35 o flynyddoedd yn ol, pryd y derbyniais alwad oddiwrth eglwys Middle Granville i'w gwasanaethu; ac yn ysbaid fy arosiad o yn agos i wyth mlynedd yno, nis gallaswn beidio meithrin y meddyliau mwyaf parchus am dano ef a'i gyd-swyddogion; ac mae yr eglwys ol eto yn cael lle dwfn yn fy serchiadau.
Yn yr ysbaid y bum yn aros yn Middle Granville, a blynyddoedd ar ol hyny, yr oedd Mr. Jones yn arolygwr y Penrhyn Slate Company, a llanwodd ei le uchel bob amser yn anrhydeddus mewn gwneyd iawnder o du y gweithwyr a'r cwmmi. Yr oedd yn gefn' cryf bob amser i'r achos yn y lle, a hefyd yn y Cyfarfod Dosbarth. Yr oedd iddo le anwyl a chynes yn mhlith ei frodyr yn Nghymanfa y Dalaeth; ac nid yw hyn yn rhyfedd yn ngoleuni ei fywyd duwiol, ei duedd dangnefeddus, addfedrwydd ei farn ar wahanol achosion, ac yn neillduol ei haelfrydedd i gynorthwyo pob achos diaionus a ddeuai ger bron iddo.
Yr oedd bob amser yn gyfaill i bregethwyr, o ba enwad bynag y byddent. Prin y meddyliwyf y bu un yn aros yn y Dyffryn hwn o gwbl nad oedd Mr. Jones yn gyfaill cywir iddo; a chyfaill i bregethwr oedd am ei fod ef yn bregethwr. Gwnai ei "gyfrif mawr o honynt" o herwydd eu gwaith, yn ol y rheol. Gwyddom o ddiffyg y tynerwch yma i lawer dyn teilwng gael ei ladd. Gellir lladd heb dywallt gwaed — lladd teimlad, gwroldeb a defnyddioldeb; a dichon fod teimlad tyner ein brawd yn cyfodi mewn rhan o'i brofiad personol ef ei hun.
Bu ef yn pregethu am ysbaid, flynyddoedd lawer yn ol; ac adroddir yn barchus hyd y dydd hwn gan arnryw am ei lafur. Rhoddodd y pregethu i fyny yn groes i deimladau ei gyfeillion; a beth a wyddom na ddigalonodd ef i fesur mawr o herwydd diffyg derbyn y gefnogaeth a ddylasai. Heblaw fod el dynerwch at weinidogion i fesur wedi codi o'i brofiaid personal, diau genym ei fod hefyd yn ffrwyth dysgeidiaeth ac esiampl ei rieni duwiol a myfyrdod Y Beibl yn benaf.
Wedi fy ymadawiad o Middle Granville i Kansas, gohebasom a'n gilydd yn fynych, a thros gymaint o amser fel y meddyliem bron y gallasai llythyrau y naill a'r llall ein cyraedd pe heb y cyfeiriad arferol arnynt. Ond at hyn y cyfeiriem - ni chawn epistol byth bron oddiwrtho heb rhyw darawiad crefyddol ynddo — weithiau ei brofiad personol, neu ryw sylw crefyddol o eiddo ei briod. neu rywbeth am sefyllfa yr achos yn y lle.
Cafodd angladd o'r mwyaf anrhydeddus a lluosog, er fod yr hin yn anffafriol. Dygwyd y gwasanaeth yn mlaen yn y ty a'r addoldy mewn modd doeth ac effeithiol iawn gan y Parch. J. Williams, Granville; a gwnes inau ychydig o sylwadau. Meddyliwn wrth weled daeru corff ein hanwyl frawd yn y bedd, fod y ddaear yn codi yn ei gwerth yng ngolwg ei pherchen a'i Chrewr yn suddiad corff W. E. Jones a'i debyg i ymgymysgu a'i llwch.
Gadawodd ar ei ol weddw al arus mewn gwaeledd a gwendid mawr a dau o blant - David Jones, Chicago, a Mrs. Daniel Thomas, Emporia, Kansas.
Y Drych - Rhagfyr 8fed 1898.
MR. WILLIAM E. JONES. MIDDLE GRANVILLE, WASHINGTON, NEW YORK.
William E. Jones died at his home in Middle Granville during a normally cold time in this northeastern region.His brief obituary in the Poultney Journal newspaper on December 2nd, 1898 relates that his friend, the Rev. John Jones, Emporia, Kansas, who was formerly a pastor in Middle Granville, attended and preached in part of the service. (Emporia is 1,415 miles west of Middle Granville, New York. In 1898, rail service would have enabled him to arrive in Middle Granville.)