DAVID LEWIS. FRANKFORT HILL, HERKIMER, NEW YORK.
"Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig." Yr oedd David yn un o dri o frodyr adnabyddus iawn yn Sir Oneida fel colofnau cedyrn dan achos y Gwaredwr gyda'r T. C, John o Floyd, David o Frankfort Hill, ac Edward o Quaker Hill.Yr oedd John yn ddiacon ffyddlon a dtefnyddiol yn eglwys Floyd, ond bu ef farw yn nghanol ei ddyddiau, ei nerth a'i ddefnyddioldeb, yn 1876, yn 59 mlwydd oed. David oedd y nesaf i'w ddylyn yn ffordd yr holl ddaear. Bu ef farw yn Utica, Medi 7fed, 1898, mewn oedran teg, o fewn ychydig ddyddiau i 80 oed. Edward oedd yr olaf, a bu farw Ionawr 7fed, 1899, ar Quaker Hill, Sir Oneida, New York yn 87 mlwydd a chwe mis oed.
Ganwyd David Medi 12, 1818, yn fab i Edward a Jane Lewis, Cefn y Maes, plwyf Llanycil, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Hyfforddiwyd, ef yn grefyddol yn mhen ei ffordd gan ei fam grefyddol a duwiol nes cyraedd ei naw mlwydd oed, pryd y bu hi farw. Pan yn un ar hugain oed gadawyd ef yn amddifad o dad a mam.
Tachwedd 11eg, 1841, ymbriododd ag Ellen, merch i Evan a Gwen Roberts, Buarth Brwynog, plwyf Trawsfynydd. Ebrill 1af, 1842, ymfudasant i'r wlad hon, a sefydlasant yn Floyd, Sir Oneida, lle y trigiasant am 14 mlynedd, a buont am naw mlynedd yn gofaîu am y capel. Yma y ganwyd chwech o'r saith plant fu iddynt. Daeth yntau trwy addysg grefyddol ei fam fel Timotheus gynt yn feddianol ar y "gyffelyb werthfawr ffydd" ag yntau yn moreu ei ddyddiau, a daliodd ei afael ynddi hyd ddiwedd ei oes. Nid gofalu am adeilad y capel yn unig yr oeddynt tra yma, ond, yr oedd fel Timotheus gynt yn "gwir ofalu am y pethau a berthynai" i'r capel. Byddent yn gyson yn y moddion, eu ty yn gartref i weision y Gwaredwr.
Yr oedd yn arweinydd yn nghaniadaeth y cysegr, ac yn hynod ddefnyddiol fel athraw yn yr Ysgol Sabbothol, a bu yn dylyn y Cyfarfodydd Ysgolion gyda ffyddlondeb mawr. Mae y gweision y bu ef yn gweini o'i gymwynasau iddynt wedi myned oddiwrth eu gwaith i dderbyn eu cyfiog er's llawer dydd bellach - y Parchn. Evan Morris, Thomas Williams, Edward Rees, Dr. Rowlands, Thos. T. Evans, Thomas Jenkins, Ebenezer Salisbury, Richard Isaac, John D. Jones.
Yma hefyd y bu yn llafurus yn magu ei blant, gan eu haddysgu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, a rhoddi iddynt freintiau ty yr Arglwydd Cooper oetìd ei alwedigaeth tra y bu yma.
Yn 1857 symudodd i Bridgewater i amaethu. Yn 1864 symudodd i Frankfort Hill. Ym 1872 aeth i Kamsas, ond gan nad oedd hinsawdd y wlad newydd yn ffafriol i'w iechyd, daeth yn ol drachefm i Frankfort Hill, lle bu hyd 1887. Am tua dwy flynedd ar ol hyn bu yn Quaker Hill, ac oddiyno daeth i Utica, lle y treuliodd weddill ei oes, ac yr hunodd yn dawel yn yr Iesu.
Yr oedd David ym wr dirodres, unplyg, cywir, a dim ond un wyneb ganddo. Yr oedd yn oleuedig yn ngwirioneddau y Beibl, ac yn gyffredim byddai ei farn ef ar gwestiynau yn yr Ysgol Sabbothol yn derfyn ar bob dadl. Yr oedd yn Fethodist i'r gwraidd, yn dderbyniwr cyson o'r "Cyfaill," ac yn ddarllenwr mawr ar y Beibl. Gadawodd i alaru am dano ddau fab a phedair merch, Edward o Kansas, David o Rochester, New York, Mrs. Brigham, Mrs. H. D. Evams, Mrs. Staley, Mrs. Johnson, oll o Utica.
Claddwyd ef yn Frankfort Hill, lle y gorwedd gweddillion ei briod a'i ferch ieuengaf, yr ysgrifenydd yn gweinyddu.