MRS. HARRIET LEWIS. WASHBURN STREET, HYDE PARK, PENNSYLVANIA.
Hydref 16eg, 1898, Mrs. Harriet Lewis, gweddw y diweddar Henry Lewis, Washburn Street, Hyde Park, Pennsylvania yn 69 mlwydd oed.Ganwyd yr ymadawedig yn Meirionydd, Gogledd Cymru. Daeth i'r wlad hon chwe mlynedd a deugain yn ôl, yng nghwmni brawd - y ffermwr adnabyddus Frederick Williams, Rome, New York, a'i chwaer, Mrs. William A. Jones, Lake Crystal, Minnesota.
Ymunwyd Mrs. Lewis mewn glan briodas â Henry Lewis yn Utica, New York, bedair blynedd a deugain yn ôl, gan yr Hybarch Dr. Rowlands. Yn fuan ar ôl hyn symudasant i lle y treuliasant y gweddill o'u hoes.
Ganwyd iddynt d dau o blant, Mrs. Annie Morris, priod y newyddiadurwr Seisnig adnabyddus John Courier Morris, a Mrs.Lizzie Bevan, priod William Bevan, Elyria, Ohio, boneddwr yn dal swydd bwysig yn melin haiarn y lle hwnw.
Yr oedd yr ymadawedig yn wraig hynod wybodus, dichlynaidd ei hymarweddiad a dysglaer yn eglwys Crist. Bu yn aelod ffyddlon oddiar yn ieuanc, ac hyd ei hangau yn aelod gweithgar yn eglwys y Tabernacl, a chafodd angladd teilwng o'i safle yn mhlith goreuon y winllan grefyddol. Ni chlywyd erioed mewn angladd ganu mwy swynol ac effeithiol.
Gweinyddwyd yn y tŷ, yr eglwys ac ar lan y bedd gan y gweinidogion parchus D. P. Jones a Peter Roberts, ac yr oedd yr hyn a lefarwyd yn nodweddiadol o'r hyn ydoedd y chwaer dduwiol ar y ddaear. "Y nefoedd fydd ei chartref mwyach," meddai y Parch. D. P. Jones.