MR. WILLIAM W. MORRIS, WEST BANGOR, PENNSYLVANIA.
Dydd Llun, Medi 2ail, 1898, bu farw y brawd anwyl William W. Morris, a theimlwn ei bod yn ddyledswydd arnom i anfon ychydig sylwadau i'r "Cyfaill" am dano, oblegid yr oedd ef yn hoff iawn o'r "Cyfaill," ac yn ei ddarllen yn fanwl bob mis. Byddai weithiau mewn tipyn o ysmaldod yn plagio y wraig y byddai hi yn darllen y "Cyfaill" o glawr i glawr, yr advertisements a'r cwbl; ond byddai yntau hefyd yn darllen yr holl erthyglau a'r pregethau, os na byddai yn darllen yr hysbysiadau hefyd. A chyda llaw, y mae yr "hen gyhoeddiad" wedi cynorthwyo llawer o Gymry duwiol America i forio i'r hafan ddymunol; ac y mae ei gyfrif hyn yn deilwng o'n cefnogaeth.Yr hyn a nodweddai W. W. Morris fel Cristion oedd yn un peth ei hoffder o Air Duw. Yr oedd y Beibl yn gydymaith gwastadol iddo. Darllenai ef gyda blas. Anaml y byddwn yn myned i'r tŷ nac yn ei gyfarfod ar yr heol na byddai yn gofyn i mi esbonio rhyw adnod, a phan y caffai ryw syniad fyddai yn ei foddloni byddai mor llawen a phlentyn bach. Yr oedd ef fel y Salmydd, yn myfyrio "yn nghyfraith yr Arglwydd ddydd a nos," am mai yno yr oedd ei bleser. A phan ar ei wely angeu yr hyn oedd yn galondid ac yn llawenydd iddo oedd yr adnodau y bu yn ymdrechu gyda hwy yn ystod ei fywyd. Fel rheol, lled isel fyddai ei brofiad crefyddol. Ofni y byddai yn fynych nad ydoedd wedi cael y cyfnewidiad mawr. Ond yn ei ddyddiau olaf yr oedd yn hollol wahanol. Dywedai yr adeg hono yn glir, "Na ddemnid byth mo hono." Gafaelai yn gryf yn addewidion Duw, a dangosai yn eglur eu bod yn addewidion iddo ef yn bersonol. Yr oedd
Ar ben y bryniau'n llawenhau
Wrth weled cyrau'r wlad.
Y wlad y meddyliai gymaint am dani yu ystod ei fywyd; y wlad a welodd mor glir yn ei ddyddiau olaf, a'r wlad pyrth yr hon a agorwyd led y pen i'w dderbyn. Hefyd yr oedd yn neillduol o ffyddlawn yn nghyfarfodydd tŷ yr Arglwydd. Ni byiddai byth yn colli moddion os na byddai raid; a'r hyn a'i gofidiai yn fawr yn ei waeledd oedd methu myned i'r capel. Aeth yno lawer pryd pan y dylasai fod gartref, a hyny heb yn wybod i'r teulu, am y buasent hwy yn sicr o'i rwystro. Nid anghofiwn yn fuan un o'r seiadau olaf, os nad yr olaf oll, y bu ynddi. Cynelid hi ar brydnawn Sabboth. a gweinyddid yr ordinhad o Swper yr Arglwydd ar y diwedd. Yr oedd ei brofiad yn y seiat hono yn un o'r pethau melusaf a hyfrydaf a glywsom braidd erioed - y gynulleidfa wedi myned i wylo. Gwlith bendith y nefoedd yn disgyn ar ei etifeddiaeth trwy brofiad yr hen frawd; y nefoedd fel pe yn dangos yn amlwg i ni yn y seiat hono mai un o blant anwyl yr Arglwydd yn ymyl myned adref at ei Dad oedd William Morris.
Hefyd yr oedd yn neillduol o selog dros burdeb yr eglwys. Byddai yn gofidio yn anghyffredin os y byddai rhywrai o aelodau yr eglwys yn ymddwyn yn anweddus o'r efengyl; a chlywsom ef rai gweithiau yn dweyd yn hallt yn erbyn ymddygiadau o'r fath. Yr oedd yr eglwys yn ei holl gysylltiadau, yn enwedig yn ei phurdeb, yn agos iawm at ei galon.
Ond bellach y mae wedi ein gadael ni i ymuno a'r eglwys lan a pherffaith yn y nefoedd. Cymanfa, a chynulleidfa y rhai cyntaf anedig, lle y mae yn cael mwynhau y pethau oedd yn hyfrydol iddo ar y llawr mewn perffeithrwydd a gogoniant.
Y mae ei hanes yn fyr fel y canlyn: Ganwyd ef yn Llanberis, Gogledd Cymru, rywbryd yn y flwyddyn 1826, felly yr oedd yn 72 mlwydd oed pam yn marw. Adnabyddid ef wrth yr enw W. Morris, Cynllwyd. Daeth i'r wlad hon yn 1846. Treuliodd y blynyddoedd cyntaf yn Utica a'r amgylchoedd, a'r gweddill yn yr ardal hon. Ymunodd a chrefydd tua 40 mlynedd yn ôl, a thynodd ei gwys yn uniawn hyd y diwedd.
Gadawodd i alaru ar ei ôl ei wraig, yr hon sydd yn teimlo yn dra hiraethlawn; un ferch a dwy chwaer. Priod y brawd W. C. Roberts yw un o'r chwiorydd hyny.
Cafodd gladdedigaeth barchus yn Slateville, lle y mae llawer o hen Gymry duwiol yr ardal hon yn gorwedd hyd ddiwrnod yr adgyfodiad mawr.
H. F. WILLIAMS.