MRS. ELEANOR JONES OWENS, FAIR HAVEN, VERMONT.
Mehefin 8fed, 1898, yn ei chartref yn Fair Haven, Vermont, bu farw Mrs. Eleanor Jones, gweddw y diweddar Owen Owens, Ysw., o'r dref uchod.Er fod cryn amser wedi myned heibio er ei hymadawiad, ac heb un crybwylliad cyhoeddus wedi cael ei wneyd am ei marwolaeth, a rhag i'w henw fyned i ebargofìant, dymuna y perthynasau i'r ychydig nodiadau canlynol gael ymddangos ar ddalenau y "Cyfaill," gyda'ch ewyllys da chwi, Mr. Gol.
Ganwyd Mrs. O. yn Penrhyn, Gorllewin Meirionydd, Mawrth 4ydd, 1819. Priododd gyda Mr. Owens, Chwefror 9fed, 1849.
Yn mhen blwyddyn ar ôl hyny ymfudasant i'r wlad hon, a buont yn cartrefu am flwyddyn yn agos i Utica. Yn 1851, symudasant i le a elwid Castleton Corners, yn Swydd Rutland, Vermont.
Gan mai chwarelwr oedd Mr. Owens wrth ei alwedigaeth, yr oedd y symudiad hwn yn fanteisiol iddo i ddylyn yr un alwedigaeth. Oddiyno symudasant i Fair Haven, lle buont yn cartrefu nes myned i ffordd yr holl ddaear.
Dyma yn fyr brif ffeithiau hanesyddol ei bywyd; ac am y rhai hyn, mae yn debyg, yr edrychir yn benaf mewn cofiant. Ond, nid yw y dygwyddiadau hyn yn bwysig, ond fel y maent yn gwasanaethu i bortreiadu delw y person o flaen y meddwl - pa fodd yr oedd wedi ei ddodrefnu, yn naturiol, moesol, ac ysbrydol i lenwi cylch a dyledswyddau bywyd; yr egwyddorion a eglurwyd, y cymeriad a ddadblygwyd; ei ddylanwad daionus ar gymdeithas, ei safle gyda golwg ar deyrnas y Gwaredwr; a'i berthynas a'r dyfodol diddiwedd.
Gwerth pob cofiant ydyw y mesur y mae yn ateb y cwestiynau hyn. Mae y Creawdwr wedi cynysgaeddu a dodrefnu pob un a chyneddfau, ac adnoddau, nerthoedd, a phosibilrwydd er gwneyd iddo ei hun le yn y byd hwn ar ei ddyfodiad iddo, ac er ei barotoi ar gyfer yr hwn a ddaw. Beth ydym yw yr allwedd i esbonio beth a fyddwn. Ni allai neb fod yn nghymdeithas Mrs. Owens yn hir heb deimlo ei fod yn mhresenoldeb person o urddas naturiol, boneddigaidd, a dyrchafedig; galluoedd meddyliol cryfion, wedi eu cyd-dymheru mewn cymesuredd a chydgordiad llawn ac addfed mwy na chyffredin. Ni wna gras gyflenwi na chuddio diffygion natur; ond mae yn ychwanegu ac yn addurno rhagoriaeth natur yn fawr.
Nid oes genym unrhyw fanylion am ei dyddiau boreuol, manteision addysg, a dygiad i fyny. Ond gan mai yn yr adeg hon y gosodir i lawr sylfaeni cymeriad, trwy ddodrefnu y meddwl a gwybodaeth, a'i sefydlu mewn crediniaeth, ac ymarferiad o egwyddorion sefydlog a thragwyddol i lunio a llywio bywyd, ar y llinellau sydd yn cysylltu y meddwl anfarwol a'r orsedd dragwyddol, oddiwrth yr hyn a welsom ynddi, a'r hyn a glywsom am dani gan y rhai a'i hadwaenai yn dda, barnwn iddi gael dygiad i fyny o'r fath oreu, yn enwedig felly gyda golwg ar egwyddorion ac ymarferiadau yr efengyl. Iddi yn yr adeg hon, "trwy impiedig air y gwirionedd," "yr had anllygredig" dderbyn yr "anian ddwyfol," "trwy yr hon y diangodd oddiwrth y llygredi "trwy yr hon y diangodd oddiwrth y llygredigaeth sydd yn y byd trwy drachwant."
Yr oedd ei meddwl yn oleuedig, a'i ffydd yn ngwirioneddau yr efengyl yn gadarn; ac ymofynai yn fanwl am yr iachawdwriaeth a ddatguddir ynddo. Felly tyfodd fel blaguryn yr Arglwydd yn gymeriad naturiol rhagorol, a hwnw wedi ei sancteiddio gan ras yr efengyl. Cyfrifid hi yn un o'r gwragedd callaf; ac uwchlaw y cwbl yn meddu ar dduwioldeb dwfn. Nid amcan penaf yr efengyl ydyw achub, ond perffeithio mewn cymeriad, a heb hyny buasai ei gwaith yn achub yn ofer.
Fel Cristion, yr oedd y chwaer hon yn egluro rhagoriaethau yr efengyl mewn cyflawnder a chydgordiad cymhesur, llawn ac addfed, cystal ag y gellir dysgwyl gweled braidd neb yn y byd anmherffaith hwn. Llanwai i fesur helaeth ddesgrifiad Petr o'r gwragedd sanciaidd, a'i meddwl "mewn anllygredigaeth, ysbryd add- fwyn a llonydd, ag sydd ger bron Duw yn werthfawr." Yr oedd ei hurddas naturiol wedi ei gyd-dymheru a gostyngeiddrwydd grasol. Yr oedd yn siriol heb fod yn wamal a chellweirus, yn sobr heb fod yn sarug. Meddai dynerwch mewn teimlad, mewn undeb hapus a chryfder y gedrwydöen mewn egwyddorion. Nid oedd yn arfer siarad llawer, ond yr oedd pob gair yn ateb y pwrpas, ac nid oedd angen ychwanegu ato.
Fel aelod o gymdeithas, yr oedd yn garedig a chymwynasgar, diddolur a diabsen am bawb, a heddychlawn ei hysbryd. Gwell oedd ganddi ddyoddef na gwneuthur cam. Yn ei pherthynas ag achos crefydd, fel mae hyny yn fantais i egluro a phrofi gwirionedd ei chrefydd bersonol, yr oedd hi a'i theulu yn arfer ffyddlondeb cydwybodol i'r achos, fel achos yr Iesu, yr hwn a garai. Cysondeb, prydlondeb, dyfal a pharhaol yn dylyn moddion gras; a gwnaeth hi a'i phriod, yr hwn oedd ddiacon o radd dda, ran gwroniaid mewn ffydd a duwioldeb yn gwasanaethu achos crefydd o'i ddechreuad yn mhlith Cymry Fair Haven; ac yn enwedig yn mhlith y Methodistiaid.
Yr oedd eu cartref a'i ddrws yn agored bob amser i groesawu gweinidogion y Gair, ac eraill o garedigion yr achos a ymwelai a'r lle, a gwasanaethai hi arnynt gyda sirioldeb llawen a pharod, fel pe buasai hyny y fantais fwyaf iddi hi, a "lletyodd felly angylion yn ddiarwybod," am ei bod yn gwneyd o gariad ato Ef.
Heblaw helbulon bywyd sydd yn dygwydd, i bawb, bu yn ei blynyddoedd diweddaf yn dyoddef oddiwrth anhwyldeb gieuol, a'i meddwl i fesur mawr dan gwmwl, eto yn yr adeg hon yr oedd yn amyneddgar, diddolur, a dibrofedigaeth i'r teulu; ond cyn y diwedd daeth allan o dan y cwmwl a'r pair tanllyd i oleuni tawel, a machludodd ei haul mewn awyrgylch ddigymylau. Gloywodd yn y pair, melusodd o ran ei phrofiad, ac fel ysgub o wenith addfed aeth adref, fel y credwn, i ogoniant.
Nid oes genym unlle i'w rhoddi ond y cartref tawel hwnw mae Iesu Grist yn casglu ei anwyliaid iddo. Credu yn yr Iesu, rhodio gyda'r Iesu, a marw gyda'r Iesu ydyw history pob dyn duwiol.
Dydd Sadwrn canlynol i'w hymddatodiad, cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol ar yr achlysur gan y Parchn. D. M. Jones a E. Walter Jones, a dylynwyd ei rhan farwol gan luaws o'i chymydogion a'i chydnabod i Cedar Grove Cemetery, a dodwyd hi i orwedd yn ochr ei phriod hyd fore yr adgyfodiad.
Mae y plant, pump mewn nifer, ac oddieithr un, yn deuluoedd, yn byw yn Fair Haven, ac iddynt hwy mae ei buchedd a'i hymarweddiad yn etifeddiaeth anmhrisiadwy.
Ein dymuniad ni ydyw ar iddynt oll efelychu ei rhinweddau, a sicrhau parhad ei choffadwriaeth ar y ddaear trwy ddylyn ei hesiampl.
Hugh Davies, Scranton, Pennsylvania.