MRS. ELLEN OWENS. QUINCY, MASSACHUSETTS.
Mai 9fed, 1898, yn Quincy, Massachusetts, bu farw Mrs. Ellen Owens, priod Robert Owens, 4 Packard Lane, yn 65 mlwydd oed.Claddwyd hi Mai lleg, yn Mount Wolaston Cemetery, y Parch. N. E. Hardy, yn gweinyddu.
Enwau ei rhieni oeddynt Mr. a Mrs. Thomas Williams (Dyffryn), Tynymaes, Bethesda, Gogledd Cymru. Ganwyd iddynt 12 o blant, allan o ba rai nid oes ond un ferch yn fyw, sef Mrs. David; Roberts, o'r lle hwn.
Ymfudodd yr ymadawedig i'r wlad hon oddeutu 36 mlynedd yn ôl, a gwnaeth ei chartref yn Quincy, a hyny hyd ei marwolaeth.