MRS LAURA KATE OWENS. REMSEN, NEW YORK.
Mawrth 31ain, I898, yn ei chartref yn Remsen, New York, ar ôl cystudd byr, Mrs. Laura Kate Owens, yn 32 mlwydd oed.Ganwyd Mrs. Owens yn Bwlch Glas Llanfrothen, Gogledd Cymru, ac yr oedd yn ferch i Richard a Laura Williams o'r un lle, ac wedi hyny o Penrhynidetudraeth, Gogledd Cymru.
Treuliodd rai blynyddau yn nghylchoedd Porthmadoc a Ffestiniog; hefyd yn Blackheath a Chatterham. College, Surrey, Llundain.
Daeth i'r wlad hon gyda'i chwaer Mary yn mis Mai, 1895, gan ymsefydlu yn Holland Patent, nes ymbriodi yn haf 1897 gyda Mr. William Owen, yr hwn sydd ddyn ieuanc parchus, genedigol o Brynsiencyn, Mon, ond sydd wedi bod yn y wlad hon rai blynyddau. Wedi priodi daeth Mrs. Owen i fyw gyda'i phriod yn nghymydogaeth Remsen, New York.
Cymerwyid hi yn glaf ar enedigaeth baban, yr hwn fu farw ar ôl deuddydd, ac ni wellhaodd y fam ar ôl yr amgylchiad. Yr oedd Mrs. Owen yn wraig ieuanc a berchid yn fawr gan bawb a'i hadwaenai, oherwydd ei rhinweddau a'i rhagoriaethau. Yr oedd wedi cael dygiad da i fyny mewn teulu crefyddol, ac wedi bod yn aelod eglwysig ffyddlon a dichlynaidd er yn ieuanc. Yr oedd hefyd wedi ei chynysgaeddu â synwyr cryf ac â meddwl bywiog a deallus. Yr oedd yn naturiol o dymer garedig, siriol a chymwynasgar, ac yn grefyddol ei hysbryd a'i hymarweddiad. Adroddai ei hoff adnodau ac emynau yn ei salwch olaf, a phwysai ei henaid ar y Gwaredwr yn angau.
Teimlir colled, galar a hiraeth dwys ar ei hol gan gylch eang o gyfeillion a pherthynasau, ac yn neillduol felly gan ei hanwyl briod, William Owen, a'i chwiorydd, Mrs. Joseph P. Williams, Holland Patent, New York, a Mrs. Edward Jones, Marcy, New York.
Gorloesir hi hefyd gan ei mam weddw, yr hon sydd yn byw yn Penrhyndeudraeth, Gogledd Cymru, hefyd gan wyth o frodyr ac un chwaer yn Nghymru. Bydd y newydd am ei marwolaeth yn archoll drom i'w mam a'r gweddill o'r teulu.
Cydymdeimlir yn fawr a hwynt yn wyneb y brofedigeth. Duw yn unig all roddi noddfa a nerth. Cafodd gladdedigaeth barchus y dydd Llun canlynol, pan y daeth lluaws yn nghyd fel arwydd o barch i'w choffadwriaeth. Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol yn y tŷ ac wrth y bedd gan y Parch. E. C. Evans, Remsen, New York.
Claddwyd gweddillion y fam a'r baban yn mynwent Fairchild, gerllaw Remsen.