MR. MORRIS D. OWENS. CAMBRIA, COLUMBIA, WISCONSIN.
Hoffder cariad yw talu teyrnged i goffadwriaeth un yn gyfaill oes fel yr oedd Mr. Owens i'r ysgrifenydd.Ganwyd ef yn Dolwyddelen, Sir Gaernarfon, G. C, yn Ebrill, 1838. Enwau ei rieni oedd David a Jane Owens, Coetmor. Yr oedd ei dad yn gefnder i weinidogion enwog Tanycastell; y tri brodyr oedd mor hysbys yn mysg yr holl genedl. Heblaw ei fod y perthyn i enwogion, yr oedd yntau yn wr o nod, fel diacon gwerthfawr gyda'r Annibynwyr yn Dolwyddelen, a chyda y T. C. yn Wisconsin, weddill ei oes.
Yr oedd y fam hefyd yn un o heddychol ffyddloniaid Israel, ag iddi air da, gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Yr oedd Morris yn un o ddeg o blant a anwyd i'r teulu yn Dolwyddelen; y rhai a ymfudasant hefyd gyda y rhieni i America yn 1847, gan ymsefydílu yn Welsh Prairie, ar dyddyn a elwid y Gaerwen, oddiwrth enw cartref yr anfarwol Dewi Wyn, a edmygid mor fawr gan ei gyfenw.
Nid oedd Morris ond bachgen naw mlwydd oed ar ei ddyfodiad i America, fel mai ar Welsh Prairie y derbyniodd ei holl addysg, grefyddol a chyffredinol. Yno y ffurfiodd iddo ei hun gymeriad ymddiriedol. ac yno y treuliodd gorff mawr ei einioes, yn llafurio yn gyntaf ar dyddyn ei dad, ac wedi hyny ar ei eiddo ei hunan. Cafodd ei fagu yn yr eglwys o gychwyn ei yrfa, a derbyniwyd ef i gymundeb yn Jerusalem, pan o gylch 17 mlwydd oed. Fel eraill o'r plant, ymadawodd a'r eglwys yn mhen rhai blynyddoedd, o dan deimladau dolurus iawn, mewn canlyniad i wrthwynebiad llym i'w dad fel diacon, yr hwn a gyfododd yn fwy o eiddigedd sectol na chariad tyner yr efengyl.
Ar ol bod allan am rai blynydldoedd, yn arwain buchedd mor ddiargyhoedd a chynt, ac yn dilyn y moddion cyhoeddus yn ddyfal, ymunodd drachefn yn yr un eglwys. Bu ei ysgwydd yn dyn o dan y gwasanaeth yno o hyny hyd ei ymadawiad; a daeth i gael ei gyfrif yn un o'r colcolofnau. Galwodd yr eglwys arno yntau i wasanaethu yn y swydd ddiaconaidd, ond am resymau oedd yn ddigonol yn ei fryd ef, gwrthododd dderbyn y cyfrifoldeb, er y bu yn ffyddlawn iawn i wneyd ei ran yn mysg y brodyr wedyn fel cynt.
Chwefror 3ydd, 1873, seliwyd cyfamod priodasol rhyngddo a Miss Eleanor Richards, merch William a Jane Richards, Rome, N. Y. Ymsefydlodd y ddau ar y tyddyn a elwid y Plas Gwyn, ì'w wneyd yn gartref am 23 mlyneddl. Ganwyd iddynt bedwar o blant yno; dau i wywo o ganol tynerwch babandod, a dau i dyfu i fyny a goroesi y tad. Oddeutu dwy flynedd yn ol, adeiladodd gartref hyfryd iddo ei hun a'r teulu yn Columbus, yn un o ranau mwyaf dymunol y ddinas, a symudodd i ymgartrefu ynddo. Ymddangosai y symudiad yn un amserol a doeth ar y pryd; yr oedd y meibion mewn oedran i gael addysg dda, ac ysgol uwchraddol yn gyfleus iddynt. Yr oedd y rhieni, ar ol oes o lafur ymroddgar, yn cyraedd adeg yr oedd cael gafael rydd oddiwrth drafferthion y tyddyn yn fanteisiol iddynt; a'u hamgylchiadau yn caniatau hyny yn llawn. Tra yr addawent hwy iddynt eu hunain brydnawn - ddydd tawel o fwyniant yn eu cartref newydd, yn ddiau, fel y dymunai eu cydnabod hefyd, byr a fu y tymor cyn i loesoedd cystudd a phresenoldeb angau ddifwyno y gobeithion a'r cysuron.
Ar ol iddo ef ei hun a'r teulu oddef gan waeledd, fwy nag unwaith, i gael adferiad, o'r diwedd cymerodd yr anhwyldeb marwol afael ynddo. Bu yn gwanychu a gwaelu am rai misoedd; ond yn y diwedd fe ymollyngodd y babell yn lled annysgwyliadwy. Bu farw yn dawel, fel y bu fyw, Mai 27, 1898, pan wedi gadael ei 60 mJwydd oed, er mawr drallod; i'r teulu a'r holl berthynasau; a siomedigaeth ddofn i r eglwys, oedd yn edrych ato fel un oedd wedi dod yn golofn ynddi.
Mai y 30ain, yr oedd yr angladd, y Parch. Griffith Griffiths, bugail yr eglwys, yn arwain y gwasanaeth; yn cael ei gynorthwyo yn y ty gan y Parchn. Maurice Griffith, M. A. Cymru, a John R. Jones, ac yn addoldy Cambria a'r gladdfa gan y Parchn. W. W. Davies, John R. Jones, John R. Johns a Thomas R. Jones.
O ran ei gymeriad, yr oedd yn wr o anwyldeb ac ymddiried mawr. Yr oedd tawelwch, hunanfeddiant a natur dda yn llond ei ysbryd. Yr oedd ei galon yn orlawn o garedigrwydd, yn ei ffordd ddystaw a di-ymhongar. Fel priod a thad, yr oedd ei ffyddlondeb a'i dynerwch yn ddihysbudd. Fel cyfaill yr oedd yn llenwi ystyr y gair. Fel cymydog, yr oedd yn llygad agored ac ewyllysgar, yn wyneb pob angen.
At yr oll, yr oedd ei gymeriad crefyddol yn un heb ei anurddo gan y diffygion sydd yn difwyno swyn a thynerweh cynifer o grefyddwyr. Efe oedd yr olaf o'r brodyr a symudwyd trwy angau. Nid oes ond tair o chwiorydd yn aros heddyw, o'r teulu o ddeg o blant, heblaw y tad a'r fam, a ddaeth drosodd o Gymry, heb son am lu mawr o wyrion a symudwyd o ganol irder mebyd. Bydded amddiffyn y nefoedd dros ei briod a'r ddau fab, yn eu galar a'u hamddifadrwydd; a'i dyddanwch yn melysu cwpan y chwíorydd ac eraill, yn eu mynych brofedigaethau.