MR. THOMAS J. PRITCHARD. BROCKTON, MASSACHUSETTS.
Tachwedd 28ain, 1898, yn Brockton, Massachusetts, Thomas J. Pritchard, aelod o'r Cyngor Trefol, ar ol hir nychdod, effaith cancr yn y cylla. Ychydig o weithiau yr oedd wedi bod yn alluog i bresenoli ei hun eleni (ei ail dymor) yn y Cyngor.Ganwyd ef yn Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn 1838. Yr oedd yn y wlad hon ers 35 mlynedd, a threuliodd 25 o honynyt yn Brockton. Bu ar un cyfnod yn byw yn California.
Llech-dowr oedd ei alwedigaeth; ac enillodd safle barchus mewn cylchoedd cymdeithasol.
Gadawodd ar ei ôl briod alarus, un ferch wedi tyfu i fyny, Miss Sydna E. Pritchard, athrawes yn Merrimac, a dau fab - Robert a William, yn awr yn Yale. Brodyr iddo ydynt William Pritchard, Steuben Valley, New York, ac Edward Pritchard, Sugar Notch, Pennsylvania. Yr oedd yn aelod o Gyfrinfa King Philip, I. O. O. F. o Taunton.
Claddwyd ef yn barchus o'i gartref, 347 North Main Street, y Parch. Dr. A. W. Archibald yn gweinyddu, gyda phedwarawd yn canu. Yr oedd y lluaws blodau ar yr arch yn arddangosiad o'r parch a goleddid tuag at yr ymadawedig.