MR. JOHN P. JONES, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Yn Enlli, ger Remsen, Caerefrog Newydd, Ionawr. 15fed, 1848, yr hen ŵr oedranus, Mr. John P. Jones, yn 89 mlwydd. oed.Daeth i'r wlad hon yn y flwyddyn 1819, o ynys Enlli, yn yr Hen wlad, gyda gwraig a 5 o blant. Sefydlodd yn y lle uchod; a chan mai efe oedd un o'r preswylwyr cyntaf yn yr ardal hon, cafodd y fraint o roi enw arni, a galwodd y lle yn ôl enw ei hen drigfan gyntefig, sef Enlli. Ac er mai ynys fechan yn y môr yw Enlli, ei hen breswylfa, a'r ardal hon ar Gyfandir America, mae yn debyg mai wrth yr enw hwn y'i hadnabyddir gan bob cenedl yn y wlad tra byddo y byd yn bod.
Mae yn debyg i'r hen gyfaill hwn farw o henaint, - peth na chanfyddir ond lled anfynych ymhlith dynolion yr oesau hyn. Nid yn fynych y gwelir angeu yn arfer yr amynedd yma at yr hil ddynol, ac y dysgwylia wrthynt nes y byddant yn syrthio megys o honynt eu hunain i'w beddau; ond am hwn gellir dyweyd mewn rhan unai felly y bu. Cafodd gyflawniad o'r addewid hono, sef gweled ei blant yn lluosogi, - ei blant ei hun i'r nifer o 7, - a phlant ei blant, i'r nifer, 42, - a'u plant hwythau, i'r nifer, 10.
Yr oedd Mr. Jones yn un a berchid yn fawr gan bawb a'i hadwaenai.
Ionawr 17eg, daeth lluaws o'i berthynasau a'i gymydogion ynghyd i dalu y gymwynas olaf iddo. Gweddiodd y Parch. Morris Roberts cyn cychwyn o'r tŷ. Traddodwyd pregeth ar yr achlysur yn nghapel Pencaerau gan D. Williams, Remsen, oddiar 1 Cor. 7 : 29, a chyfarchwyd y gwyddfodolion wrth y bedd gan Mr. Roberts. Yna aeth pawb tua thref gan adael gweddillion marwol ein hen gyfaill i orwedd yn y llwch i aros bloedd yr archangel.