MR. JOHN T. THOMAS, BRYN ADDA, SALEM, COLUMBUS, WISCONSIN.

Tachwedd 14eg, 1898, bu farw Mr. John T. Thomas, ar ôl dyoddef blynyddoedd o gystudd, gan ddiffyg anadl a'r dyfrglwyf. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1823; yr oedd ei fam yn un o tua Clynog, ond man cartref ei rieni yn amser ei febyd ef oedd y Felinheli. Enw ei dad oedd Robert Thomas, yr hwn a arferai weithio mewn cysylltiad ag odyn galch ar dyddyn o'r enw Bryn Adda, gerllaw y lle a nodwyd. Adnabyddid ei fam yn gyffredin wrth yr enw Ann Hughes, yn ôl arfer y dyddiau gynt. Yr oedd iddo ddau o frodyr, Thomas a Robert, ac amryw o chwiorydd yn Nghymru.

Ymfudodd i America yn y flwyddyn 1854; yn mysg y rhai oedd yn cydgroesi y Werydd ag ef yr oedd y Parch. John Roberts, Lake Crystal, Minnesota, a chwaer iddo. Daeth Mr. Thomias i sefydliad Columbus tua diwedd Mehefin y flwyddyn grybwylledig. Bu yn aros ar ôl hyny am ysbaid gyda hen deulu parchus Tan-yr-Allt, yn Welsh Prairie. Ar ôl aros tymor neu ddau yno, fe ddychwelodd i Columbus. Bu yn gwneyd ei gartref am beth amser yn Coed Tyno; gan ei fod yn gefnder i Johin ac Evan P. Jones.

Yn amser y diwygiad, gwanwyn y flwyddyn 1860, ymunodd a chrefydd, fel aelod yn eglwys Bethel am ysbaid. Yn y flwyddyn 1862, seliwyd cyfamod priodasol rhyngddo a Miss Mary G. Williams, merch i'r diweddar Robert H. Williams, a Grace ei briod, o'r uu sefydiliad. Ganwyd iddo dair o ferched o ba rai y mae dwy yn fyw, ac yn preswylio yn nghyd eto yn yr hen gartref. Bu ei briod yn wael a chystuddiol am dymor maith, a dyddanwch crefydd oedd cynhaliaeth a hyfrytwch ei hysbryd ar y pryd. Bui hi farw Mai 25ain, 1882, gan adael y priod yn weddw, a thair o ferched yn amddifad mewn galar ar ei hol.

Awst 15ed, 1891, bu farw un o'r merched, Margaret Grace, yn 28 mlwydd oed; a'i henaid fel y tystiai, yn ymddiried yn ddisigl ar y Gwaredwr.

Ar ôl gweld ei gyfran o brofedigaethau a thrallodion, a dwyn baich trwm cystudd ei hunan am lawer o flynyddoedd, bu yntau farw ar y dydd a grybwyllwyd. Cymerodd yr angladd le Tachwedd 18fed, pryd y gweinyddodd y Parchn. Griffith Griffiths a John R. Jones. Pregethodd yr olaf ar yr amgylchiad oddiwrth Iago 4: 14. Yr oedd Mr. Thomas yn wr o feddwl cryf, a deall goleuedig. Bu yn ddarllenwr dyfal, nes dod yn gyfarwydd iawn yn hanes y byd, ac yn ddeallus a goleuedig yn yr Ysgrythyrau. Anfynych y cyfarfyddid un mwy dyddan yn ei gymdeithas nag ef, am y meddai wybodaeth gyffredinol helaeth, ac fod ynddo fwy na'r cyffredin o ddawn a ffraiethineb hefyd.

Bellach y mae yntau wedi tewi, a'i weddillion yn gorwedd gerllaw eiddo ei briod, a'i ferch yn mynwent Bethel. Trigiana y ddwy ferch yn yr hen gartref eto; Hannah yn briod â Mr. Wm. J. Pritchard, ac iddynt ddau o blant; ac Annie, hyd yma yn ddibriod, eto felly mewn amgylchiadau cysurus a chefnog, a'r ddwy yn mwynhau cymdeithas a ffafr eu gilydd.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1899.