MR. WILLIAM J. THOMAS. WILLIAMSBURG, MAINE.
Chwefror 11eg, 1898, yn Williamsburg, Maine, William J. Thomas, yn 69 mlwydd oed, o glefyd y galon.Claddwyd ef y dydd Sul canlynol yn mynwent Brownville. Gweinyddwyd yn y tŷ gan y Parch. W. E. Greene, a chanwyd amryw o emynau Cymreig gan y côr, o dan arweiniad Richard Roberts.
Daeth yr ymadawedig i'r wlad hon yn ngwanwyn 1850 o Rhiwlas, Pentir, Caernarfon, Gogledd Cymru, gan ymsefydlu am ryw gymaint o amser yn Slatington, Lehigh County, Pennsylvania. Bu mewn amryw fanau wedi hyny megys Salem, New York, Vermont a Canada; ond yr oedd yn trigianu ers agos i 30 mlynedd yn Williamsburg.
Ymbriododd ag Ellen, merch Thomas a Fanine Michael, Braich Melyn, ger Bethesda, yn 1861. Gadawodd hi gyda chwech o blant i alaru am briod a thad gofalus a charedig, a chymydog tawel a gonest.
DAVID LLOYD.