MRS. CATHERINE WILLIAMS. MITCHELL, SOUTH DAKOTA.
Gorphenaf 12fed, 1898, yn Mitchell, South Dakota, Mrs. Catherine Williams, anwyl briod D. T. Williams, yn 55 mlwydd oed, o'r afiechyd a alwai y meddygon creeping paralysis, ar ôl nychdod o ddwy flynedd, gan adael ar ei hol briod a phedwar o blant, ond yr oll wedi tyfu i fyny.Ganwyd hi yn Tanygrisiau, Ffestiniog. Merch ydoedd i Owen Evans a Jane ei briod, ac wyres i'r hen gymeriad adnabyddus William Morris.
Priodwyd hi yn y lle uchod gyda D. T. Williams, ac yn 1869 symudodd y teulu i Dodgeville, Wisconsin.
Gwnaeth angau rwyg yn y teulu tra yno, trwy gymeryd tri o'r plant.
Yn 1882 symudodd y teulu drachefn, gan sefydlu yn agos i Pankington, South Dakota, gan feddwl gwella eu hamgylchiadau a gwneyd cartref iddynt eu hunain; ond yn hyn eto cawsent eu siomi i raddau, fel llawer eraill yn Dakota.
Claddasant Owen, eu mab hynaf, a Lillie, eu merch ieuengaf; ac yn awr dyma, y fam wedi eu dylyn.
Gan iddi golli ei thad tra yn ieuanc, magwyd hi gan ei thaid;, William Morris, ac felly yr oedd yn grefyddol o'i mebyd. Yr oedd yn gymeriad diniwed iawn a diabsen am bawb, ac yn ei hamddifadrwydd o foddion Cymreig, yr oedd yn mwynhau ei hun wrth ganu hen benillion a hen donau oedd wedi ddysgu yn ieuanc, a myfyrio ar yr hyn oedd wedi ei glywed a'i brofi yn yr Hen Wlad; ond credwn ei bod heddyw mewn llawer gwell gwlad, "Lle na ddywed neb o'r preswylwyr, claf ydwyf."
Yr oedd yn aelod gyda'r M. E. yn Mitchell, y rhai fu yn dyner iawn o honi hi a'i theulu yn ei chystudd a'i hangau.
Claddwyd hi yn agos i Plankington, wrth ochr ei hanwyliaid. Heddwch i'w llwch a'r Arglwydd fyddo yn llon'd ei addewid i'r teulu.