MR EDWARD WILLIAMS. LANSFORD, CARBON COUNTY, PENNSYLVANIA.
Ebrill 8fed, 1898, yn Lansford, Carbon County, Pennsylvania, Edward Williams, yn 40 mlwydd oed. Adnabyddwyd ef yn yr Hen Wlad a hon wrth yr enw Ned Pennal.Fel y crybwyllasom yn y "Drych," gobeithiem am ei adferiad gyda thoriad y dail, ond "Dy ewyllys Di a wneler;" fe groesodd hen afon angau i'r wlad lle nad yw y dail byth yn gwywo na neb o'i phreswylwyr yn dweyd claf ydwyf. Bu yn gystuddiol am flwyddyn gyfan; ac yn gorwedd ar ei wely am fisoedd lawer, yn ddigyffro bron. Yr unig gysur a gaffai pan yn y cyffion caeth oedd ei fod yn gallu edrych yn mlaen trwy ffydd i'r ddinas gyfaneddol fry.
Bu yn aelod ffyddlon o'r hen eglwys Cymreig; ac yn yr Ysgol Sabbothol gyson yn y dosbarth gyda'r ysgrifenydd. Meddai ar alluoedd cryfion o ddyn cyffredin.
Ganwyd ef yn Pennal, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, ac yr oedd o deulu cyfrifol iawn. Chwarelwr ydoedd wrth ei alwedigaeth yn yr Hen Wlad, ond gadawodd Sir Feirionydd i groesi dros y Werydd tua deng mlynedd yn ô1, gan ddyfod i Wilkesbarre; ond ychydig fu ei arosiad yno; daeth i'r lle hwn trwy gydnabyddiaeth a'r diweddar Glan Egan.
Priododd Miss Williams, merch rinweddol yn y lle, wyth mlynedd i'r dydd y bu farw - y briodas yn cael ei thori, ond y briodas a wnaeth â Mab Duw yn dal.
Mae hi wedi ei gadael gyda thri o blant i alaru ar ei ôl.
Claddwyd ef ddydd Sul ar Summit Hill, y Parch. Teilo Evans yn gweinyddu. Canwyd ar lan y bedd "Bydd myrdd o ryfeddodau," dan arweiniad Joseph Bryant. (Rythunydd).