MRS. GRACE WILLIAMS. SLATINGTON, PENNSYLVANIA.

Awst 19eg, 1898, yn Slatington, Pennsylvania, y chwaer anwyl a hoff Grace Williams, priod y brawd Richard H. Williams, merch Hugh ac Ann Davies, Water Street, Bethesda.

Y mae tair chwaer a brawd iddi yn byw yn y wlad hon, sef Mrs. Margaret Evans, Delta, Pennsylvania; Ann Evans, Virginia, ac Elizabeth Hughes, Virginia City, Nevada; ac Evan Davies, Wind Gap, Pennsylvania.

Daeth hi a'i phriod i'r wlad hon 15 mlynedd yn ôl, ac ymsefydlasant yn Granville, New York. Trigianent ar Church Street. Yn mhen saith mlynedd symudasant i Wind Gap, Pennsylvania; ac ers pum mlynedd yn ôl symudasant i Slatington, lle yn enillasant iddynt eu hunain barch ac edmygedd mawr o herwydd eu paradrwydd a'u cymwynasgarwch, ynghyd a'u sel a'u hymdrechion gyda'r achos.

Tua blwyddyn yn ôl dechreuodd iechyd Mrs. Williams ddadfeilio; eto ar adegau coleddid gobeithion cryfion am adferiad iddi gan ei lluaws cyfeillion, yr hyn y mawr awyddai hithau amdano. Yn ei gorawydd o bosibl, Gorphenaf 11eg, anturiodd daith rhy fawr, dan ofal ei nith, Miss Maggie Evans, i Delta, Pennsylvania i ymweld a'i chwaer, er adgyfnerthiad, lle y bu am bump o wythnosau yn derbyn y croesaw a'r caredigrwydd mwyaf yn bosibl. Yn ystod y cyfryw amser gwaethygodd ei hiechyd, fel y gorphenodd ei gyrfa ddaearol ar y dydd a nodwyd.

Dranoeth dygwyd ei chorff i Slatington a chladdwyd hi ar y 23ain yn Fair View Cemetery. Cafodd gladdedigaeth parchus a boneddigaidd. Gofelid am y trefniadau gan ei gweinidog. Yr oedd yn bresenol hefyd y Parch. W. T. Williams, New York; Parch. J. W. Morris (M. C.) a'r Parch. D. E. Richards (B). Siaradwyd yn uchel am yr ymadawedig fel chwaer a nodweddid gan rinweddau a rhagoriaethau lluosog. Tad yr amddifad a barnwr y gweddwon a brofo ei hun yn nodded ac yn amddiffyn i'n hanwyl frawd ei pfriod a'i hunig blentyn yn eu tywydd garw.
WILLIAM M. DAVIES.

Y Drych ~ Medi 29ain 1898.