MRS. GRACE ROWLANDS WILLIAMS. WILKESBARRE, PENNSYLVANIA.
Ebrill 9fed, 1898, yn Wilkesbarre, Pennsylvania, Grace Williams, priod, Thomas Williams, o West Mead Street, yn 38 oed, o glefyd y galon, Ni bu yn cadw ei gorweddfa ond dau ddiwrnod.Yr oedd yn fam i chwech o blant, yr ieuengaf ond chwe mis oed. Merch ydoedd i Hugh ac Ellen Rowland, (Aber,) Bethesda,, Gogledd Cymru, a'i phriod sydd yn fab i Margaret Williams, Pant Dreiniog, Bethesda; ac yn y wlad hon ers 13 mlynedd.
Cydymdeimlir yn fawr a'r gweddw a'i amddifaid bychain; a hyny yn fwy am ei fod i raddau mawr wedi colli ei iechyd, o herwydd damwain drom yn ei waith bedair blynedd yn ôl, pan y cafodd ei anafu am ei oes i fod fel cynt.
Gwnaeth Mrs. Rowlands, priod i'w brawd Thomas, dosturio wrth y baban ieuengaf, a'i gymeryd i'w fabwysiadu. Llefara amgylchiadau fel y cyfryw y mae y teulu trallodus hwn ynddynt, bethau dwysion wrthym; ac hyderwn y cant eu heffeithiau dyladwy ar bob gradd a dosbarth o'r cymydogion a'r perthynasau.
Gwasanaethodd: y Parch. H. P. Morgan (W ) yn yr angladd, sef gweinidog yr eglwys lle yr oedd yr ymadawedig a'i phriod yn aelodau. Deallwn fod lluaws o gydnabyddion i'r ymadawedig a'r teulu yn ardaloedd: chwareli Vermont.