MR. HOWELL WILLIAMS. DRY CREEK, KANSAS.
Ionawr 1af, 1898, yn ei gartref ar Dry Creek, Kansas, o'r pneumonia, bu farw Howell Williams, yn 58 mlwydd oed.Ganwyd ef yn Brynyffynon Goed, ardal Brynengan, Swydd Gaernarfon. Ymfudodd i America yn 1859.
Bu yn filwr yn y Rhyfel Cartrefol am tua thair blynedd. Yr oedd yn aelod o eglwys y Parch. J. Jones. Gadawodd briod a dau o fechgyn i alaru ar ei ôl. Hefyd un brawd - John H. Williams, Emporia, ac un chwaer, Mrs. Ellen Williams, Warsaw, New York.
Gwasanaethwyd yn y tŷ a'r capel gan y Parchn. John Jones, H. Rees a J. M. Hughes. Claddwyd yn mynwent isaf Dry Creek.