MRS. JANE WILLIAMS. VALLEY, NEW CAMBRIA, MACON COUNTY, MISSOURI.

Ionawr 7fed, 1898, Mrs. Jane Williams, priod Rowland Williams, Valley, ger New Cambria, Swydd Macon, Missouri, yn 60 mlwydd, 11 mis a 2 ddiwrnod oed.

Merch ydoedd i John a Gwen Jones, Dolyddelen, Arfon, Gogledd Cymru. Bu ei thad farw pan nad oedd hi ond plentyn. Yr oedd ei mam yn gyfnither i'r Parch. John Jones, Talysarn. Cafodd ei dwyn i fyny yn dra chrefyddol. Daeth i'r wlad hon yn ferch ieuanc. Treuliodd amrai flynyddau yn ninas New York. Tra yn aros yno cyrchai bob Sabbath i eglwys M. C., dan ofal y Parch. Dr. Roberts.

Yn Mai, 1866, ymbriododd â milwr ieuanc o'r enw Rowland R. Williams. Ymrestrodd Mr. Williams yn 1862 yn y Third Heavy Artillery, Pennsylvania, ac yn Mehefin, 1865, derbyniodd ei discharge yn anrhydeddus. Wedi iddynt fyw ar rai blynyddau yn West Bangor, Lehigh, Pennsylvania, daethant i New Cambria, Swydd Macon, Missouri.

Bu Mrs. Williams yn wael iawn am, amser hir, ond yr oedd yn ddyoddefgar mewn cystudd. Yr oedd yn un o'r gwragedd mwyaf siriol, tawel, dystaw a diymhongar yn ei dydd, ac fel y cyfryw yr oedd iddi barch mawr gan y lluaws a'i hadwaenai. Y dydd Sadwrn canlynol ymgasglodd torf fawr o bobl i dalu y gymwynas olaf i'w gweddillion, yr ysgrifenydd yn gweinyddu.

Gadawodd briod a phump o blant; dau fab a thair merch. Cyflwynwn ein hanwyl frawd a'i blant caredig i ofal yr Hwn sydd yn briod i'r gweddwon ac yn dad i'r amddifaid.
J. V. JONES.

Y Drych ~ Mawrth 17eg 1898.