MR. THOMAS WILLIAMS. CALEDONIA, WISCONSIN.

Mehefin 20fed, 1898, ar ôl bod yn glaf am yn agos i ddwy flynedd, pan yn 76 mlwydd oed, Thomas Williams, Caledonia, Wisconsin, mab i Morgan a Jane Williams, Cyllellog, Penal, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru.

Daeth i'r wlad hon gyda'i rieni, pedwar o frodyr a phump o chwiorydd, yn 1843, gan ymsefydlu yn ardal Jerusalem, Waukesha, Wisconsin.

Yn 1845 priododd Ellen Roberts, merch i John a Jane Roberts, Bach y Riffog, Llanberis, Gogledd Cymru, ac ymsefydlasant yn Caledonia, ger Portage, Wisconsin. Bu iddynt wyth o blant, chwech o'r rhai sydd yn awr yn fyw - Mrs. O. D. Owens, Minneapolis; Mrs. D. E. Evans, Chicago; Miss Lizzie Williams, Chicago, a thri mab yn byw yn yr hen gartref yn Caledonia, sef Thomas, Price a Hugh.

Bu farw Mrs. Williams Mehefin 21ain, 1871.

Yr oedd Thomas Williams yn weithiwr diwyd, cymydog gonest a charedig, a thad tyner a gofalus. Arferai ddylyn moddion yn y capel Cymreig pan y byddai yn iach, ac yr oedd yn hoff iawn o ganiadaeth gysegredig.

Teimlir chwithdod ar ei ôl yn ei ardal, ac yn arbenig yn ei deulu gartref. Gadawodd yr ymasawedig ddau frawd a thair chwaer, sef Price, John, a Catherine Williams, yn yr hen gartref yn Waukesha; Elizabeth, priod Evan Jones, Erw, ger Cambria, Wisconsin, a Mary, gweddw Robert Davies, Delafield, Wisconsin.

Dydd Mercher, Mehefin 22ain, ymgynullodd tyrfa luosog o'r ardalwyr yn nghyd, lluaws o ddinas Portage, at breswylfod yr ymadawedig i dalu teyrnged o barch i'w goffadwriaeth.

Gweinyddwyd yn y tŷ ac yn y capel yn Gymraeg gan yr ysgrifenydd, ac yn Saesneg gan Dr. Richie, Portage. Claddwyd ef yn mynwent Caledonia. Nawdd y nef fyddo dros ei blant.
G. GRIFFITHS.

Y Drych ~ Gorphenaf 14eg 1898.