MRS. CATHERINE DAVIES. DODGEVILLE, WISCONSIN.
Chwefror 22ain, 1899. yn ei chartref, tua saith milltir i'r dwyrain o ddinas Dodgeville, Wisconsin, Mrs. Catherine Davies, anwyl briod John B. Davies. yn dra sydyn, Cymerwwyd Lloyd, ei mab ieuengaf, yn glaf iawn tuag wythnos cyn iddi hi gael ei chlafychu, a thra yn gweinyddu arno ef cymerwyd hithau yn sal o enyniad yr ysgyfaint, yr hyn a derfynodd yn ei marwolaeth yn mhen wythnos. Tra y mae y mab yn gwella, y mae hi wedi marw.Cafodd gladdedigaeth barchus Chwefror 24ain, 1899. Cynaliwyd gwasanaeth byr yn y tŷ, yna aed yn orymdaith fawr o gapel Bethel y Coed, o fewn milltir i'w chartref, lle gweinyddwyd gan ei gweinidog, y Parch. D. Dyfri Davies, yn cael ei gynorthwyo gan W. W. Wickham. Gwnaeth Mr. Davies sylwadau oddiar Heb. 4: 3, ac Esaiah 43: 2. Daearwyd yr hyn oedd farwol o honi yn y fynwent sydd yn ymyl y capel.
Ganwyd hi yn y Waun Rydd. Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, Gorphenaf 21ain, 1840. Merch ydoedd i David ac Ann Lloyd. Ymfudodd ei rhieni i'r wlad hon pan oedd hi yn ddeg mlwydd oed, ac ymsefydlasant yn ardal Blue Mounds, Wisconsin.
Ymunodd mewn priodas â John B. Davies, Rhagfyr 21ain. 1866, ac oddiar hyny hyd ddiwedd ei hoes sefydlasant ar fferm yn ardal Bethel y Coed, Wisconsin. Deilliodd o'u hundeb bump o feibion a phedair o ferched, ac y maent oll yn fyw, sef David L. Evan B. Thomas E. a Lloyd H., y rhai sydd gartref; a John B., sydd yn briod, ac yn gyfferwr yn Kearney, Nebraska; Hannah J.. Mary A., Maggie A., a Lizzie C., oll gartref, ac yn cydalaru ar ôl eu mam. Gadawodd hefyd frodyr a chwiorydd, sef Robert ac Elizabeth Lloyd, Barneveld, Wisconsin, David Lloyd. La Moure, North Dakota, a Mrs. A. J. Lockman, Fargo, North Dakota, y rhai oeddynt oll yn bresenol, a llawer o berthynasau eraill, yn angladd Mrs. Davies.
Cafodd yr ymadawedig ei thueddu i ganlyn Iesu pan yn 16 oed. Ymunodd yn gyntaf ag eglwys y T. C. yn Blue Mounds, ac wedi ymsefydlu yn ardal y Coed ymunodd ag eglwys Gynulleidfaol Bethel, a pharhaodd yn ffyddlon hyd nes i angeu ei symyd o'r eglwys ar y ddaear i'r eglwys yn y nef.
Diniweidrwydd y golomen,
Ac addfwynder fel yr oen.
A'i nodweddai trwy ei bywyd
Yn mhob storom, a phob poen;Boneddiges hynaws, dawel
A didramgwydd yn ei hoes
Ymgysegrodd o'i hieuenctyd
I wasanaeth Crist a'i groes.
Ei rhinweddau beraroglant
Fel rhosynau teg yr ardd,
Ei hawddgarwch a'i lledneisrwydd,
Wnaeth ei bywyd oll yn hardd;
Priod hawddgar, mam gariadlawn
Cristion Dysglaer yn ei dydd,
Nes i'w hysbryd esgyn adref,
Fry i'r nef, o'r tŷ o bridd.