MR. EVAN DAVIES. 5318 5th AVENUE, CHICAGO, ILLINOIS.

Mehefin 29ain, 1899, yn 5318 5th Avenue, Chicago, Illinois, Mr. Evan Davies, yn 60 mlwydd oed. Ei afiechyd oedd cancer yn y cylla.

Ganwyd a magwyd gan ei rieni, Mr. a Mrs. Edward Davies, mewn lle o'r enw Waun Dasa, Plwyf Llanfihangel yn Pennant, Sir Feirionydd. Bu ganddo chwech o frodyr ac un chwaer. Deallwn fod ei chwaer ac un neu ddau o'i frodyr wedi marw beth amser yn ôl.

Dysgodd y grefft o saer coed, a bu yn dylyn ei grefft am rfai blynyddau yn Barmouth a Towyn, ac yn nglyn a thloty Machynlleth.

Ymfudodd i'r America yn 1864, gan ymsefydlu yn Chicago.

Yn y flwyddyn 1878, ymbriododd â gwraig weddw enedigol o Sir Benfro, o'r enw Mrs. Manley, yr hon a fu yn dra gofalus ohono, trwy lawer o hunanaberthiad, yn ystod misoedd meithion ei gystudd olaf.

Gweithiai ei grefft yn Chicago yn gyntaf gyda chwmni rheilffordd y Rock Island, yna ers llawer blwyddyn gyda chwmni y Fort Wayne and Pittsburg R. R. Bu amryw o hen gyfeillion yn dra ffyddlon iddo yn ei gystudd. Trwy ddarbodaeth daeth i amgylchiadau cysurus, a chafodd bob gofal a charedigrwydd gan ei briod ac eraill hyd y diwedd.

Gwasanaethwyd ddydd yr angladd gan y Parch. J. C. Jones, a chafodd ei gladdu yn barchus yn Oakwood Cemetery.

Rhodded Duw ei nawdd i'r weddw.
J. C. JONES.

Y Drych ~ Gorphenaf 13eg 1899.