MRS. JANE EDWARDS. 299 SOUTH 7TH STREET, NEWARK, NEW JERSEY.

Mehefin 6ed, 1899, yn ei phreswylfod, 299 South Seventh Street, Newark, New Jersey, yr hen fam anwyl Mrs. Jane Edwards, yn 75 mlwydd a naw mis oed.

Ganwyd hi mewn amaethdy o'r enw Pantgwvn, plwyf Llanuwchllyn, Gogledd Cymru. Collodd ei mam pan yn wyth oed.

Ymunodd mewn priodas â John E. Edwards, o'r un ardlal, yn y flwyddyn 1846. Ganwyd, ididynt ddeg o blant, sef saith o feibion a thair o ferched; ac yr oedd saith o honynt yn cael y fraint o dalu y gymwynas olaf i'w mam dyner a gofalus.

Ymfudasant i'r wlad hon, yn 1852, gan ymsefydlu fel amaethwyr yn Swydd Oneida, New York. Treuliasant 37 mlynedd mewn gwahanol ardaloedd yn y Swydd bono. Deng mlynedd yn ôl, daethant i gartrefu i Newark, New Jersey, lle y mae dau fab iddynt yn feddygon enwog a llwyddianus, a'r gweddill o'r plant sydd yma mewn sefyllfaoedd cysurus ac anrhydeddus. Mae eu mab John yn New York City; Edward yn Holland Patent, ac un ferch yn Marcy, Oneida County, New York, a'r saith eraill yn Newark.

Bu hi a'i phriod yn Nghymru am flwyddyn oddeutu deng mlynedd yn ôl, a, phrofodd yr ymweliad yn ad-gyfnerthiad corff a meddwl i'r ddau hen bererin. Ei hideal hi a'i phriod am ddyn, cyfaill a Christion, oedd yr enwog Brifathraw M. D. Jones, Bala, yn nghymidieithas yr hwn y treuliasant gyfnod euraidd eu mebyd.

Private hollol oedd ei hangladd; neb ond y teulu, a'r perthynasau agosaf yn bresenol ei phriod, ei phlant, a'i hwyrion, a'r unig frawd iddi sydd yn fyw, Robert R. Edwards, Arvonia, Kansas, yr hwn a gyraeddodd ei phreswylfod ychydig ddyddiadau cyn ei hymadawiad, a'i nith, Mrs. John Lewis, New York City.

Dyoddefodd gystudd maith a chaled, ond yn hollol dawel. Yr hyn gyfrifai am, hyny ydoedd y ffaith iddi arddel a dylyn "Tywysog Tangnefedd" am dros. dri ugain mlynedd, egwyddorion yr hwn oedd yn ei llywodraethu, ei hysbryd yn ei harwain, ei ras yn ei nerthu a'i addewidion euraidd yn ei dyddanu a'i chysuro mewn cystuddiau. Darllenodd y Beibl o glawr i glawr un ar hugain o weithiau er pan yn ei gwlad fabwysiedig. Yr oedd yn eithriadol yn mysg gwragedd o ran ei gwybodaieth Feiblaidd a duwinyddol; yn dawel o ran ei hysbryd, ac yn ddiabsen am bawb; ie, yn enwog am ei lletygarwch a'i charedigrwydd.

Dydd Iau canlynol claddwyd yr hyn oedd farwol o honi yn Fairmount Cemetery, Newark, New Jersey, y Parch. W. Tudwel Williams, New York, yn gwasanaethu.

Nawdd y nef fyddo dros yr hen bererin duwiol Mr. Edwards i dreulio gweddill ei oes ar y ddaear, a thros y plant a'r wyrion.

Er yn byw yn Newark, New Jersey, cadwasant eu haelodaeth eglwysig yn eglwys Gynulleidfaol, Holland Patent, New York.

Y Drych ~ Mehefin 15fed 1899.