MR. H. C. ELLIS. RANDOLPH, WISCONSIN.
Rhagfyr 7fed. - Fel y crybwyllwyd eisoies yn y "Drych," bu farw H. C. Ellis o'r pentref hwn, pan yn ychydig dros 80 mlwydd oed.Ganwyd ef yn 1818, mewm tyddyn bychan o'r enw Planwydd, Arthog, Sir Feirionydd. Enw ei dad oedd Cadwalalder Ellis, ac enw ei fam, Jane. Yr oedd wyth o blant o honynt, o'r rhai nid oes yn aros ond dwy chwaer, sef Mary Davies, College, Llwyngwril, ac Ann Jonas, gynt o'r un lle, ond, yn awr yn Lake Crystal, Minnesota, gyda'i merch, Mrs. Levi Davies.
Bu ein gwrthrych yn aros y rhan fwyaf o amser ei fachgendod gyda'i daid a'i nain yn Friddboedal. Ni chafodd ond ychydig fanteision addysg yn more oes, gan y bu raid iddo fynd i weithio at ffermwyr. Bu yn gwasanaethu blynyddau yn Cefnfeusydd a'r Borthwen, a byddai pawb yn hoff o hono fel gwas a gweithiwr gonest.
Yn 1839, priododd Mary Lewis o Dyffrym Ardudwy, a buont yn byw yn Llwyngwril. Yn 1841, ymfudodd ef a'i briod i America, a buiont yn byw yn Remsen, New York, am bedair blynedd cyn symud i Lake Emily, Wisconsin, lle y cartrefasant am bedair blynedd arall, yn trin fferm John Jones, "Yr Hen Lanc."
Wedi hyn prynodd Mr. Ellis fferm yn Beaver Dam Island,, gerllaw Fox Lake, lle y buont fel teulu am ugain mlynedd. Gan fod y ddau yn rhedeg i wth o oedran, gwerthasant eu lle, a symudasant i Randolph i fyw. Yma bu farw Mrs. Ellis.
Yn Medi 1882, priododd yr ail waith gyda, Mrs. Jane Jones, gweddw y diweddar John Jonas, gynt o Oshkosh, Wisconsin.
Cafodd Mr. Ellis gystudd go faith. Bu yn dyoddef am ddeg mis, eto heb fod yn boenus iawn. Tynwyd y babell i lawr yn araf, ac yr oedd yntau yn gweithredu amynedd. Hen gymeriad nobl ydoedd, ac iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Tystiai hen gymydog iddo ei fod yn gymeriad cywir a gonest. Dywedai ei feddwl yn ddidderbyn- wyneb wrth bawb, a pharodd yn Cristion ar hyd y blynyddoedd, yn ffyddlawn mern gair a gweithred. Cyfranodd $500 at gapel yr A. yn Randolph pan adeiadwyd ef, a pharhaodd felly yn ffyddlawn mewn cyfranu hyd y diwedd.
Ni bu idd blant o'r wraig gyntaf, ond geneth fabwysiedig, yr hon sydd fyw eto, sef Mrs. Oliver Hughes, West Pullman, Chicago. Cafodd gladdedigaeth barchus ar yr 8fed o Dachwedd. Cynaliwyd, gwasanaeth angladdol yn nghapel yr A., pryd y gwasanaethwyd gan y Paroh. John R. Johns (T. C.), Randlolph, a'r ysgrifenydd.
Claddwyd ei weddillion wrth ochr ei wraig gyntaf yn mynwent Randolph. Bydded y nef yn dirion o Mrs. Ellis.
Ffarwel i mi mwyach dy wel'd ar y ddaear,
Na chael gyfeillach oedd felus i mi;
Dy hun fo yn dawel yn mhriddell y dyffryn,
Tra minau sydd heddyw a'm dagrau yn lli';
Cwynfana'r awelon uwch ben dy orweddfa,
Dy gwsg fo yn felys i orphwys mewn hedd,
A gollwng ei ddagrau uwch ben dy aneddle
Wna'r cwmwl wrth basio man fychan dy fedd.