MR. JAMES H. EVANS. WALES, IOWA.

Wales, Iowa Ionawr 27ain. Mae llawer o bethau wedi myned heibio er pam anfonwyd gair i'r "Drych" o'r lle hwn y dylasid fod wedi crybwyll am danynt cyn hyn, ond gwell hwyr na hwyrach.

Hydref yr 2ail, bu farw James H. Evans yn ei gartref yn nhref Red Oak.

Ganwyd ef Mehefin 22ain, 1843, yn Corris, Sir Feirionydd.

Tua'r flwyddyn 1870, symudodd ef a'i frawd Evan i'r wlad hon i ardal Flint Creek, Iowa, a thua pedair blynedd ar hugain yn ol symudodd i fyw i dref Red Oak.

Yn mis Ebrill, 1877, ym Iowa City, priododd Miss Ellen Griffith, merch Humphrey Griffiths, a nith i'r diweddar Barchedigion Evan a Griffith Griffiths, yr hon sydd wedi ei gadael yn weddw gyda, chwech o blant, pedwar o fechgyn a dwy o ferched.

Ar adeg ei farwolaeth yr oedd ei ddau fab hymaf, Wade ac Evan, ar eu ffordd adref o Manila, gyda chwmni M. 51st Iowa Regiment, a theimlai yn hyderus iawn yn eu cylch, ac awyddai gael byw i'w gweled yn dychwelyd yn ol, ond ni chafodd.

Claddwyd ef y dydd Mercher dilynol yn mynwent y dref, pryd y gweinyddwyd gan ddau o weinidogion y dref.

Yr oedd Mr. Evans yn un o ragorolion y ddaear; yn aelod eglwysig gyda'r M. E. ers llawer o flynyddoedd. Taflwyd y dref i dristwch pan ddeallwyd ei fod wedi marw. Daeth torf fawr i ddangos eu cydymdeimlad; a'i weddw a'i blant, yn mhlith y rhai yr oedd bankers a masnachwyr parchusaf ein dinas. Yr oedd y torchau o flodau heirdd, a'r teimlad dwys ddangosid yn profi fod ein hen gyfaill anwyl yn ddwfn yn serchiadau y bobl.

Saer maen oedd wrth ei alwedigaeth. Yr oedd yn ddyn gonest a diwyd, ac o herwydd hyny wedi dod i'w gydnabod yn un o'r dyinion mwyaf ymddiriedol yn y dref; ac yr oedd yn un ag y byddem yn hoff iawn o'i gyfarfod bob amser. Ni byddal raid i neb fod yn ei gwmni ond amser byr cyn deall ei fod yn foneddwr cywir ac un-plyg.

Ffarwel hen gyfaill hoff.

Y Drych Chwefror 8fed 1900.