MR. EDWARD GRIFFITHS. BARK RIVER, WAUKESHA, WISCONSIN.

Bu farw Edward Griffiths, Caehope, ardal Bark River, Waukesha, Wisconsin, yn 73 mlwydd oed.

Gadawodd wraig a dau o blant i alaru eu colled ar ei ôl, yn nghyd a brawd, yr hwn sydd yn byw yn Kansas, a thair chwaer, un o'r rhai ydyw gwraig y diweddar Barch. R.Williams, La Crosse.

Brodor ydoedd Mr. Griffiths, os nad ydym yn camgofio, o Lanwnda, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Bu yn byw yn Kansas a Columbus, Wisconsin, eithr symudodd ryw ddeuddeg mlynedd yn ôl i ardal Bark River.

Cafodd gystudd trwm a phoenus, ond dyoddefodd. yr oll yn bur dawel a dirwgnach.

Yr oedd mewn amgylchiadau clyd a chysurus, a chredwrn heblaw hyny ei fod wedi trysori iddo ei hun drysorau yn y nefoedd. Yn marwolaeth Mr. Griffiths cafodd y gymydogaeth, yr ysgol Sul, ac achos y M. C. yn Bark River golled fawr. Dewiswyd ef flynyddoedd yn ôl, yn un o'r diaconiaid yn eglwys y M. C. a bu yn dra ffyddlawn yn y swydd.

Gwasanaethwyd ddydd yr angladd gan y Parchn. O. O. Jones, Wales, a W. Matthew, Waterville, a chladdwyd ef yn Columbus, Wisconsin.

Yr Arglwydd a fo yn nodded ac yn gymorth hawdd ei gael i'w blant a'i briod.

Y Drych ~ Ebrill 27ain 1899.