PARCH. GRIFFITH GRIFFITHS. IXONIA, JEFFERSON COUNTY, WISCONSIN.

A'r nesaf oedd y Parch. Griffith Griffiths, Glen Ellyn, Illinois.

Yr oeddwn yn ei adnabod ef er 1853, yn New York, newydd iddo ddod o'r Hen Wlad yn llanc ieuanc glandeg.

Yr oedd fy chwaer yn aelod yn ei eglwys, a byddai ef yn mynychu ei thy yn lled aml, gan eu bod, eu dau yn dod o Ffestiniog; felly cefais adnabyddiaeth ag ef.

Ac wedi i mi symud i Watertown byddai yn galw yn ein ty yn aml, pan oedd yn weinidog yn Milwaukee ac Oshkosh. Pan oedd yn Chicago byddwn yn myned i'w glywed yn pregethu yn aml, gyda blas.

Yr oedd yn chwith genym glywed am ei farwolaeth sydyn. Tad yr amddifaid a barnwr y gweddwon a ofalo am ei deulu yn eu trallod, yw dymuniad ei hen gyfaill.
M. M. Jones.

Y Drych ~ Ionawr 4ydd 1900.