MR. MORRIS GRIFFITHS. COLUMBUS, WISCONSIN.

Ebrill 13eg, 1899, bu farw Morris Griffiths, Bryncroes, yn ei gartref ger llaw Columbus, Wisconsin, yn 67 mlwydd ced, gan adael gweddw, saith o blant, un brawd., dwy chwaer, a llu mawr o berthynasau pellach mewn chwithdod a galar.

Yr oedd ei iechyd yn adfeilio er's blynyddoedd, ac ymddangosai yn gwaethygu mewn misoedd diweddar, er yr oll a allodd neb o amryw feddygon i'w helpu. Bu yn wael iawn yn ystod yr wythnos olaf, ac eto nid oedd ei gydnabod yn dysgwyl ei ymadawiad mor ebrwydd. Ganwyd ef ger llaw Clynog, yn Arfon, yn 1832.

Enwau ei rieni oedd Griffith a Catherine Morris, y rhai a ymfudasamt i America gyda'r plant yn 1846. Yn sefydliad Columbus y treuliodd y ddau weddill eu hoes, ac yno y bu Morris y mab fyw hyd derfyn ei ddyddiau.

Claddwyd dwy o'r merched, a dau o'r meibion yn gynarol. Dylynodd y tad ym 1875, a'r fam yn 1878. Bu Morris Griffiths yn briod ddwy waith, a ganwyd iddo wyth o blant o'r wraig gyntaf. Bu farw un mab, Robert, flynyddoedd yn ôl; ac ni wyddys dim er's blynyddoedd am Griffith. Y mae Richard yn byw yn hen gartref y tad; a John, Elizabeth, Catherine, Grace, ac Ellen yn Chicago. Cafodd yr oll ond Griffith ddod adref at angladd y tad, yr hyn a gymerodd le ar y 15fed.

Gwasanaethwyd gan fugail eglwys Bethel, i'r hon y perthynai; yn cael ei gynorthwyo gan y Parch, G. Griffiths. Yr oedd yr angladd yn un tra lluosog, am fod y tywydd yn dda, ac yntau wedi treulio 53 mlynedd yn y sefydliad. Heblaw y bydd ei farwolaeth yn peri hiraeth i'r llu o berthynasau; teimlir chwithdod ar ei ôl mewn cylch eang. Ychydig o ddynion y sefydliad; oedd yn gydnahyddus mewn cylch eangach nag ef.

Y Drych ~ Ebrill 27ain 1899.