MR. ROBERT H. HUGHES. WHITESBORO STREET, NEW YORK.

Dydd Mercher, Ebrill 12fed, yn ei gartref 110 Whitesboro Street, ar ol hir gystudd, yn 69 mlwydd, 2 fis a 27 diwrnod oed, bu farw Robert H. Hughes, mab y diweddar Barch. Hugh Hughes (Tegai), awdwr y Gramadeg Cymraeg adnabyddus, a gweddw yr hwn a fu farw yn Utica 13 mlynedd yn ol.

Ganwyd Robert yn Tregarth, ger Bangor, Gogledd Cymru, yn 1830. Daeth i America yn 1866; ac i Utica yn mhen dwy flynedd, i dreulio gweddill ei oes, oddigerth ychydig flynyddau y bu yn Chicago.

Yn 1873 priododd Mrs. Ellen Evans, yr hon sydd wedi ei oroesi. Mae iddo un mab o'r wraig gyntaf - John Hughes yn Minneapolis; tri brawd a thair chwaer - Mrs. Grace Atkinson, Blackburn, Lloegr; Mrs. Richard Williams, Easton, Pennsylvania; Mrs. Martha Owens, New York; Thomas, East Bangor, Pennsylvania; Michael, engineer ar y New York Central, a John Quincy Hughes, argraffydd yn y State Hospital, Utica: hefyd, dwy wyres, Bessie ac Alice Hughes, Elm St., Utica.

Yr oedd Mr. Hughes yn aelod o'r eglwys Wesleyaidd Gymreig, o'r Urdd Iforaidd. Cymdeithas y Cymreigyddion ac o'r Bricklayers and Masons' Union.

Bu yn dal swyddi am flynyddau yn y Gymideithas Elusengar.

Cafodd angladd parchus o'r Coke Memorial Church, ddydd Gwener, y Parchn. Dr. Gwesyn Jones a E. J. Griffith yn gweinyddu.

Y Drych Ebrill 20fed 1899.